sábado, 23 de febrero de 2008

Bois yn clocso

Pan own i’n grwtyn, bu imi gystadlu lawer tro yng nghystadleuthau dawns y glocsen yn eisteddfodau’r cylch ond ers ifi dyfu’n ddyn, ‘mond dawnso ar ol cwpwl o beints ifi’n folon ei wneud a ‘nelwn byth mo ‘ny â chlocs ar fy nhraed – credi di fi

Dawns unigol yw dawns y glocsen wrth gwrs - wel ‘blaw am y ffycin sguball ‘na maen nhw’n disghwl iti neido drosti. Wi ddim yn meddwl bod petha wedi newid rhyw lawer, hyd yn oed heddi yng Nghymru, ond ma’ rhaid i betha newid; mae rhaid gwthio’r ffiniau a datblygu fel y mae pob traddodiad byw yn ei wneud er mwyn cadw’n boblogaidd.

Dyna pam wi’n lico’r fideo ‘ma o’r bois hyn yn clocso – really cool!!

2 comentarios:

Anónimo dijo...

Helo na - dwi newydd ddod ar draws dy flog (wedi darllen d'ymateb i ryw flog gwleidyddol) a dwi wedi cynnwys dy flog di ar fy rhestr o flogie dwi moyn i darllen yn gyson (sy'n cychwyn gyda brenin y blogie - Vaughan Roderick) ond mi rwyt ti 'efyd yn y rheng flaen.
Ma dy hanes yn un diddorol tu hwnt - wi moyn mwy!

Cer i Grafu dijo...

Diolch o galon 'achan. Simo fi'n credu bo Vaughan Roderick a fi yn blogo biti'r un petha ond bywyd yw bywyd wedi'r cwbwl.

Pwy ymateb netho i i ryw flog gwleidyddol - wi wedi gatal amall i un yn fy nghwrw ond cwilydd gen i feddwl yn y bora - er siwr geni wi dal i gretu be bynnag wetas i.

Eto i gyd ac unwaith eto, diolch iti am dy sylwadau caredig