lunes, 17 de septiembre de 2007

'gyrru, gyrru, gyrru' - 2


Rwyf wedi ela llythyr at yr adran drafnidiaeth yn Abertawe heddi er mwyn trial cael fy nrwydded yrru yn ôl. Fe eles i’r drwydded atyn nhw ‘bthdi chwe mlynedd yn ôl erbyn hyn er mwyn iddyn nhw gael newid y cyfeiriad arni hi. Hen drwydded bapur oedd gen i ac felly fe geso i lythyr yn ôl yn gofyn imi ela llun atyn nhw er mwyn cael trwydded blastig newydd sbon. Rown i’n brysur ar y pryd ac fel ag y mae petha, mae dyn yn anghofio ontefe.

Gobeithio y galla i ei chael hi nôl; fyswn i ddim yn lico gorffod ail-sefyll y prawf eto. Mae’n siwr gen i na fyswn i ddim yn ei basio fe eilwaith. Fe gymerws hi ddigon o amser ac arian imi y tro cynta. Methu’n lân â pharcio’r car rhwng dau gar arall own i, ac fe geso i wers ar ben gwers yn trial gwneud hwnna. Ar ddiwedd y dydd, rwy’n ei gweld hi’n wast amser; fe fyswn i’n mynd rownd a rownd y bloc er mwyn ffindo lle gwell i barco.

Fe ddysgais i yrru yng nghyffiniau Caernarfon ac yn y fanna mae’n weddol rwydd. Yr unig broblem yw mynd mas i’r wlad lle mae’r hewlydd yn gallu bod yn reit gyfyng ac mae rhaid i un car facio yn ôl weithiau er mwyn i’r llall gael fynd yn ei flaen. Rown i wastod yn sefyll fy nhir a gorfodi’r llall i’w wneud e. Roedd yr athro gyrru yn colli ei dymer pan own i’n gwneud hwnna ond mae’n well na dala’r traffig lan am hannner awr ond yw hi.

Bu raid imi wneud yr arholiad ym Mangor. Fe basiais i fy mrawf yrru ar yr ail dro ond a’m llaw ar fy nghalon, fe fyswn i wedi pasio’r tro cyntaf os nad oedd yr arholwr o’r teip sydd â’i ben yn ei din. Fe wedodd e wrtho i ei fod e’n mynd i roi arwydd imi er mwyn gwneud ‘emergency stop’ – ond mae aros am yr arwydd ‘na yn dy roi di ar bigau’r drain ontefe. Dyma fi’n gyrru ar hyd y lôn a dyma fe’n peswch – fe wpais i’r droed ar y brêc yn reit sydyn ac fe aeth ei bapurau a phopeth dros bob man:

- 'Be’ haru ti' medda fe.

- 'Emergency stop' medda fi.

- 'ond ddeudis i ddim byd' - medda fe yn ei acen od - 'and that was too bloody violent'

- 'Yes, it was a fucking emergency!' wedas i’n ddigon cwrtais.

Gwrthododd e siarad â fi wedyn a thaflu’r darn o bapur canlyniadau ato i ar ddiwedd y prawf a cherdded bant o’r car. Fe dowlas i hwnna bant i ryw gwter wedyn, felly wi’n cymeryd taw’r ‘emergency stop’ wnath imi fethu ond pwy a ŵyr.

Fe basiais i yr ail dro ac doedd neb yn ddisgwyl hynny am imi gael, yn ôl pob son, un o’r arholwyr gwaetha a fu. Menyw eitha tebyg i Mrs Thatcher oedd hon, heb wên neu hiwmor i weld yn perthyn iddi. Eitha cas oedd ei gwep hi ac am fod gwefusau dirgelwch y fenyw yn mynd o lan i lawr, roedd hi’n credu y dylsa gwefusau ei hwyneb wneud yr un peth - golwg sarrug a swrth arni, ti’n gwpod, fel ‘sa hi’n sugno rhywpeth mas o welltyn.

Erbyn imi ddod i’w napod, menyw ffein ei gwala oedd hi, a ninna’n cael ambell i jôc gyda’n gilydd. Dyma ni’n mynd dros bont Menai a finna bach yn nerfus, felly dyma fi’n gofyn iddi beth ‘sa rhywun yn galw lesbiad o Iwerddon - hen jôc yw hon ond nid pawb sydd wedi ei chlywed hi - ’Gaylick’ yw’r ateb wrth gwrs a bu iddi bwffian chwerthin ac heb sylwi ar y gath y gyrron ni drosti ganol bont.

Deng mlynedd yn ôl y pasiais i’r prawf – ond rhyw chwe mis yn unig y bues i wrthi’n gyrru ar ôl hynny. Fe rentais i gar oddi wrth y boi ‘ma yn Mae Colwyn ac fe etho i i bobman; o’r de i’r gogledd, o Gaerdydd i Lundain ac wedyn i Birmingham a thrwy Ogledd a Chanolbarth Cymru i gyd cyn cyrraedd gitra yn Llanrug. Yr unig drafferth geso i oedd yn y Bala ar adeg yr Eisteddfod pan barciais i ar linell felen a chael ticed amdano. Bai Kirk oedd hwnna am iddo fe fynnid mynd i’r tŷ bach mewn rhyw dafarn gerllaw.
.
Dyna’r tro cyntaf ifi gael problemau gyda’r bwmbeiliaid am beidio a thalu dirwyon – fe ddethon nhw i’r tŷ a mynd i mewn trwy’r bwlch lle’r oedd y drws cefn i fod a mynd â beic Kirk gyda nhw. Rown i mor falch na fachon nhw ddim o’m stwff i, er bod Kirk yn cochi ‘nghlustiau o hyd wrth gonan biti’r peth.

Siwr iti y bydda i’n iawn os ca i’r drwydded yn ôl. Gyrrwr digon diogel oeddwn i a byth yn mynd yn gyflym iawn - mae bywyd yn mynd yn ei flaen yn ddigon cloi, ‘sdim pwynt rhuthro o gwmpas y lle oes e – ara deg mae mynd ymhell.