jueves, 9 de agosto de 2007

Da yw dial


Newydd ddod nôl o Somerfields ydw i ac mae’r lle ’na yn mynd o ddrwg i waeth. Maen nhw wedi newid lle’r bwydydd ar y silffoedd eto byth. Wn i’m be’ sy’n bod arnyn nhw yn newid pethau o un lle i’r llall byth a hefyd. Fel arfer wi mewn a mas o fewn pum munud ond heddi rown i biti hanner awr yn whilo am ‘pickled onions’ a ffilas i’n lân a ffindo’r bar o siocled 24 ceiniog sy gyda nhw. Halen ar y briw wedyn oedd y fyddin o fenywod tew oedd yno â’u troliau siopa. Tân ar fy nghroen yw’r menywod hyn – cynddrwg bob tamaid â’r bastardiaid sy’n seiclo ar y pafin. Maen nhw wastod yn dy ffordd a sdim ots ‘da nhw os gwnân nhw fwrw i mewn iti. Bu bron i un o’r ffycin trolis ‘na fy mwrw i drosodd. Fe ddath rhyw wampen o fenyw a’i throli ato i fel gyr o wartheg gwyllt ac fe wedodd yr hwch wrtho i wedyn y dylswn i fod wedi edrych lle rown I’n mynd. Mae angen gras.

Fe geso i’r cyfle i dalu’r pwyth yn ôl ar y ffordd mas. Roedd hi wedi talu am ei negeseuon a dyna le’r oedd hi yn llanw mas un o’r slips ‘na am y loteri ar bwys yr allanfa. Fe bases i heibio iddi hi a slipo tun o tiwna yn un o’r bagiau siopa plastig oedd yn ei throli siopa. Mas a fi wedyn, cynnu ffag ac aros iddi ddod allan. Ar ôl biti pum munud dyma hi’n cerdded mas o’r siop a’r ffycin larwm yn cychwyn. Roeddwn i yn fy seithfed nef - da yw dial. Pan adewais i, roedd hi’n dal yno a’r gard diogelwch yn mynd trwy bob dim oedd yn ei throli. Mae uffach o hwyliau da arno i nawr.

1 comentario:

Rhys Wynne dijo...

Dwi'm yn foi rhagfarnllyd, ond ffyc mi dwi'n casau fatties hefyd.