jueves, 9 de agosto de 2007

Balchder hambon


Dyma lun ohono i a Hedd a dynnwyd rhyw bum mlynedd neu ragor yn ôl gan Dai Llanilar yn ystod ‘Hambôn Pride’ yng nghyffiniau Pencader. Smo fi’n siwr iawn pwy yw’r 'silver surfer' yn y cenol ond roedd e’n mynnid ishta rhynton ni ac roedd hambwrdd gynto fe a oedd yn llawn dop o ddiodydd, felly fe gas e ei le.

Simo fi’n hambôn fy hunan, ond mae rhai o’m ffrindiau gorau i yn hambôns ac mor belled 'bod nhw’n cadw’r fforch a’r caib iddyn nhw eu hunain dos 'na ddim ffyc all o ots 'da fi be’ ddigwydd y tu ôl i gaeau caeëdig.

Balch own i i gefnogi Hedd ar y diwrnod arbennig hwnnw iddo fe. Mae’n gas gen i bobl hamboffobig – wn i’m be’ sy’n bod arnyn nhw, ond wi’n cofio rhyw ffrind imi yn gweid wrtho i rywbryd taw’r bobl mwya hamboffobig oedd, mae’n debyg, yn hambôns eu hunain ond heb y gyts i ddod mas o’r beudy. Efallai bod gwirionedd yn hwnna.

Mae hambôns yn edrych yr un fath â fi a thi a phe bysat ti’n eu tynnu nhw mas o’u cynefin, anodd fyddai eu sbotio nhw. Wrth gwrs mae na rai sy’n mynd dros ben llestri ac yn gweid ‘bysdi’ yn lle ‘beth wedais ti’ ac yn ymhyfrydu yn y fath iaith hambôn ‘na ac yn llawer rhy hoff o ddawnsio gwerin, ond eu côd nhw yw hwnna i napod ei gilydd ontefe. Digon anodd yw cael shelffad yng nghefn gwlad fel ag y mae ac mae unrhyw ffordd o hyrwyddo hwnna a chadw hambôn at hambôn i’w groesawu – o leia dyna be’ ma’r anifeiliaid yn gweid wrthdo i.

’Hambôn Pride’ - fe joies i mas draw. Ar ddiwedd y noson pan ddaeth y ‘shearing sisters’ mlan i ganu ‘It’s Raining Sheep’, yr oeddwn i’n dawnsio a jwmpo lan i lawr fel yr hambôn cyntaf greodd Duw. Am barti, am ddathliad am bobl!

Yn ystod dathliadau’r diwrnod hwnnw, y cneifio, y godro a’r twmpath - hawdd oedd credu bod y byd yn baradwys a phawb yn caru pawb ond nid felly yw hi wrth gwrs. Mae dal rhagfarn yn yr hen fyd ‘ma, ac mae pobl yn dal i wahaniaethu yn eu herbyn nhw neu wrthi'n diolch i Dduw nad ŷn nhw’n un ohonyn nhw. Er fy nghywilydd, faswn i ddim yn lico dod o rywle fel Sir Gaerfyrddin neu bod yn fab fferm ychwaith, felly wi’n deall y rhagfarn. Roedd fy mam yn pigo arno i ddigon i dacluso fy ystafell wely unwaith yr wythnos heb sôn am fod yn fab i ffermwr yn gorffod codi cyn cwn caer i glanhau’r beudy pob bore neu ysgubo strydoedd llwm Pencader a chyrraedd yr ysgol yn drewi o dail a thom. Druain ohonyn nhw, ond byd mawr yw hi myn yffarn i ac mae angen pob siort. Rhaid inni ddysgu byw ‘ta’n gilydd ac os gallwn ni ein caru’n gilydd, gwell fyth.

No hay comentarios: