sábado, 14 de julio de 2007

Porcyn


Fe siafes i’r blew off rownd 'y ngheilliau i echnos. Wi’m yn falch ne’ ddim byd fel ‘na ond simo fi’n moyn cael ceilliau fel King Kong chwaith. Edrych ar ôl dy hun yw e ontefe. Simo ‘na i weid ‘bo ti’n ‘gay’ neu un o’r geiriau pathetig ‘na sy ‘da ni yn y Gymraeg fel cadi ffan neu ryw Sioni naill ochr – mae na lwyth o’r geiriau ‘na a phob un yn perthyn i’r oes a fu. Ac a gwed y gwir, os gelli di ddala pidyn lan dy din di heb sgrechin, rwyt ti’n eitha dyn yn fy meddwl i.

Sna’m ffwc ots gen i, fe wna i siafo ’y ngheilliau a’m pen ôl fel na fydd yr un ‘clingon’ yn cael lle i fyw ac mae merched yn gwerthfawrogi hwnna. Fe wna i roi bach o bersawr o dan fy ngheseiliau a hyd yn oed newid fy ‘sanau unwaith yr wythnos. Mae edrych ar ôl dy gorff yn bwysig –‘mond un sy ‘da ti.

Meddwl am hyn i gyd ydw i am inni weld y ffilm porno ‘ma neithiwr ‘Paul does Paula’. Roedd Paula druan a’i ffrind Emily wedi mynd i’r clwb ‘ma yn Los Angeles ac yn ddiarwybod iddyn nhw, clwb i bobl porcyn oedd e. Wel, credi di ne’ beidio digwyddws peth tebyg ifi, Xosé a Pablo biti blwyddyn a hanner yn ôl. Ar ôl parti yn y tŷ ryw nosweth, fe benderfynon ni fynd mas, ac i Dukes yn Vauxhall yr ethon ni - i fanna rŷn ni’n mynd fel arfer am ei bod hi’n reit gyfleus.
.
Dyma ni wrth ddrws y dafarn wedyn ac mae’r bownser yn gweid wrthon ni taw ‘special night’ oedd hi a ‘naked disco’ oedd y peth sbeshal biti fe. Bu raid inni dynnu dillad a’u rhoi nhw yn un o'r 'bin bags' du ‘na a thalu ‘extra’ am hwnna hefyd. Ble rôn nhw’n disgwy inni roi ein dillad – arian yw popeth erbyn hyn. Dim ond shws a ‘sanau ôt ti’n gallu gwisgo ac roedd ‘odd socks’ ymlaen ‘da fi a gwed y gwir ac own i’n teimlo’n reit ‘self concious’ biti hwnna – gobeitho nad oedd neb wedi sylwi.

Fy marn i biti’r peth yw bod y rhan fwya o bobl yn edrych yn well mewn dillad ond mae bod yn borcyn yn dangos taw brodyr ŷn ni i gyd a bod rhagfarnau yn dwp a sdim gwahaniaeth rhynton ni o gwbl – er bod fy ‘willie’ fi ychydig yn fwy na’r ‘willies’ eraill a welais i yno!

2 comentarios:

Blewyn dijo...

Oedd dy gnau di ddim yn cosi ?

Cer i Grafu dijo...

Na, rwyt ti'n rwbo bach o 'fairy liquid' drostyn nhw wedyn ac mae'n nhw'n iawn.

Ond be bynnag wnei di paid a rhoi dim 'aftershave' arnyn nhw. Heblaw am y ffaith ei fod e'n stingad fel y diawl, mae dy geilliau'n diengyd lan dy gorff di a welid di mo'nhw am bythewnos