lunes, 2 de julio de 2007

Plismon technoleg


Wi’n sylwi ‘bod nhw wedi cywiro’r pethau cas roedden ni wedi rhoi i mewn yn y wicepedia Sbaeneg am Margaret Thatcher a Franco. Own i’n meddwl y byddan nhw’n sylwi ar bethau Pablo. Fe aeth e bach dros ben llestri a newid uffach lot, ond own i’n meddwl ‘bo fi wedi bod yn reit ‘subtle’ ac ond newid pethau fan hyn fan draw yng nghorff yr erthygl ond maen nhw wedi dileu fy mhethau i hefyd ac ryn ni’n ffili mynd nôl i mewn i newid dim byd arall. Sai’n deall shwt maen nhw’n gwpod taw ni yw e. On’d ŷn ni’n gloi ‘ta’r holl dechnoleg newydd ‘ma. Mae fel ‘tasa rhyw blismon technoleg yn edrych dros dy ysgwydd.

Digwyddws rywbeth tebyg inni yn Somerfield dros y penwythnos. Fe aethon ni i gael bach o fwyd i mewn – caws, chorizo, olives, 24 Stella Artois, dwy botelaid o win, botelaid o wisgi, potelaid o coca cola a dau baced o’r losin ‘fuzzy bears’ sur iawn iawn ‘na. Dyma ni’n mynd at y peiriant hunan wasanaeth ‘na wedyn a scano’r pethau ‘ma a’u rhoi nhw yn y bagiau wrth yr ochr. Mae Xose wastod wedi meddwl os yw e’n talu am lot o bethau bod arnyn nhw rywbeth bach am ddim iddo fe, felly dyma fe’n gweid wrtho i i jwst dowlu’r losin ‘fuzzy bears’ ‘na yn syth i’r bag a dyna be’ wnetho i – ond chredi di byth, dyma’r peiriant â’r llais Stephen Hawkins ‘na yn dweud wrthon ni - ‘ please remove the last item from the bag’. Shwt ffwc oedd y mashin ‘na fod i wpod ‘na. Geson ni shwt yffach o sioc fel y rhoddon ni’r Parma ham nol o le geson ni fe hefyd. Wir yr, wi’n ofn pisho yn erbyn y wal erbyn hyn rhag ofn bod rhyw ‘frawd mawr’ yn fy ngweld.

No hay comentarios: