sábado, 30 de junio de 2007

Aur dilin yw distawrwydd


Bu raid imi ddala’r bws i fynd i Tescos heddi. Mae’r gath wedi mynd yn eitha ‘stroppy’ eto. Wnaiff hi ddim byta’r bwyd cath brynais i bwy ddiwrnod. Mae’n mynd fel ‘na o bryd i’w gilydd. Yr unig beth fytiff hi’n rheolaidd yw ham, pork luncheon meat a bisgedi. Simo hi’n lico’r bisgedi o Somerfield, dim ond rhai Tescos ac mae’n gwneud yn siwr ‘bo fi’n gwpod hynny hefyd. Pan godais i’r bore ‘ma roedd yr hen gotsan wedi chwydu dros fy nghopi o ‘Harry Potter y el Prisionero de Azkaban’. Nawr wi’n ffilu agor y tudalennau’n iawn. Maen nhw i gyd wedi mynd yn glitsh wrth ei gilydd fel cylchgrawn porno rhyw hen ddyn budr. Fydda ‘na ddim cymaint o ots gen i ‘tasa hi wedi chwydu dros un o lyfrau Pablo. Dim ond un dant sy ‘da hi ar ôl hefyd. Wn i ddim lle’r aeth y lleill. Dim ond un oedd ‘da ddi pan ddaeth hi i fyw gyda fi. Efallai ei bod hi’n byta gormod o’r hen fisgedi caled ‘ma.

Sai’n lico mynd ar y bws ar fy mhen fy hun, felly daeth Xose gyda fi. Mae wastod rhyw nyter yn dod i ista wrth fy ochr i, hyd yn oed pan fo’r bws yn hollol wag. Own i’n arfer esgus nad own i’n siarad Saesneg ond dyw hwnna ddim yn gweithio pob tro. Maen nhw’n dueddol o siarad a thi’n uwch a gwneud rhyw ystumiau a’u dwylo. Wi jwst yn esgus ‘bo fi’n ddall, mud a byddar erbyn hyn ac maen nhw’n fy ngadael i’n llonydd.
.
Mae ffrind gyda ni sy’n fud a byddar. Mae Xosé yn gallu ei ddeall e’n iawn – wn i’m shwt, ifi’n cael eitha trafferth deall dim. Fe gwrddon ni ag e un noson ac roedd llwyth o’i ffrindiau mud a byddar 'dag e. Am bobl sy’n pallu siarad mae nhw’n gallu mynd mlan a mlan – elli di fod am awr neu ragor ‘da nhw’n rhochain rhywbeth a’r dwylo’n mynd i bob man a ti fawr callach be’ maen nhw’n treial gweid ar y diwedd.

Dyw Xosé ddim yn siarad bron dim Saesneg ond os dysgiff e air mae’n lico ei iwso fe lot. Andrew yw enw’r boi hyn ond mae Xosé yn ei alw fe’n ‘deafy dumbo.’ Fy mai i yw hwnna am weid wrtho fe taw dyna’r gair am fud a byddar yn y Saesneg. Bu i’m cywirdeb gwleidyddol ddiengyd rhagddo i am eiliad. Dylswn i ei gywiro fe neu fe gaiff e glatshen gan rywun ryw ddiwrnod, ond pob tro mae’n gweid y gair ‘na mae rhyw wen blentynaidd yn dod i’m hwyneb.

No hay comentarios: