viernes, 13 de julio de 2007

Morfudd - un o'm ffrindiau bore oes


Fe geso i e-bost hyfryd iawn gan Morfudd heddi. Ffrind imi ers dyddiau pell ieuenctid yw hi. Dyma hi’n fy nghyfarch i a gweid pwy mor neis, synhwyrus a golygus ydw i a bod Cymru yn gweld fy ngholled, ond own i’n gwpod hwnna. Un am weid pethau amlwg fu Morfudd erioed.

Un o Ddolgran yw hi ynghanol y rhan hambôn ‘na o Sir Gaerfyrddin, ac fe ddethon ni i napod ein gilydd gyntaf yn un o Eisteddfodau’r plant ‘na. Rhyw ragbrawf dawnsio gwerin oedd hi yn ysgol gynradd Pencader a dath ein hysgol ni i gystadlu yn erbyn rhyw anffodusion eraill oedd yn casáu pob munud ohono fe.

Un reit chwim ar ei thraed oedd Morfudd ac yn dal i fod am a wn i. Er y bysa hi’n gwadu hyn, roedd hi wrth ei bodd ac yn mwynhau pob munud. Fe geso i fy ngorfodi i'w wneud e fwy ne’ lai. Roedd Mrs Siencyn, ein hathrawes Gymraeg, wedi gweid os na fyswn i’n cymryd rhan yn y clocsio, bydda rhaid imi gystadlu yn y rasys traws gwlad ac mae hwnna YN artaith bur, felly y clocsio enillws y dydd.

Roedd Morfudd yn cael problemau ‘ta rhyw sboner oedd gynti ddi ar y pryd, ac rown i’n innau jwst yn cael problemau ym mhob twll a chornel a thrwy hynny fe ddethon ni’n ffrindiau da. Dyna le buon ni’n ddou’n dawnsio’n hapus braf i ryw ddawns nos gŵyl Ifan rownd y ffycin fedwen ffug ‘ma yn chwifio’r nisiedi ‘ma yn yr awyr fel Graham Norton ar noson mas yn y ‘Vauxhall Tavern’ i lawr yr hewl ‘ma. Oh, y fath hwyl a gawsom!! Melys moes mwy.

Fe gadwon ni mewn cysylltiad dros y blynydda ac fel mae treigl ffawd yn wara gemau ar bobl, dyma ni ar ol un noson orfoleddus o feddwol yn y Crymych Arms, Crymych yn cael ein harestio am ‘drunk and disordely’ – Morfudd oedd yn feddw ac mae’n debyg taw bach yn ‘disordely’ own i os gweda i galon y gwir. Yn llys yr Ynadon Aberaeron wedyn, dyma ni’n ddou yn cael ein dedfrydu i chwe mis o ‘wasanaeth cymdeithasol’ – pob dydd am chwe mis COFIA!

Rown i isha gwitho ‘ta’r ‘Womens’ Refuge’ a Morfudd ‘ta’r Samariaid ond NA, roedd eu pryd ar ein cosbi ni a buws raid inni weithio am chwe mis i Gwmni Cadwyn Cyf Roedd Morfudd yn welw lwyd a finna’n cachu trwser lot fwy nag y gwnetho i ar ôl byta pymtheg paced o’r losin ‘Haribo’ ‘na ryw flwyddyn ynghynt - ond cyd-ddioddef ac aberthu sy’n creu cyfeillgarwch ac ni fedr neb dorri ar y cwlwm mae hwnna’n ei greu.

Erbyn hyn mae Morfudd yn gweithio yng nghrombil y Llyfrgell Genedlaethol ac yn gwerthu’r ‘big issue’ y tu fas i’r Cwps, Aberystwyth pob nos Wener, a finnau? - Wel, yfi yw yfi yw yfi! Cusan, cwtsh a pharch iti Morfudd a diolch am rannu bach o daith bywyd gyda mi xxx.

2 comentarios:

Bonheddwr dijo...

Ac mae Morfudd Nia Jones yn ddigon trendi ac ifanc i fod ar facebook,

Does dim pwynt i ti bwyso ar y linc uchod os nad wyt ti'n aelod Ceri, fyddi di'n gweld dim!! ;-)

Dere 'mlaen, ymuna a Faceboob. mae e'n lot mwy addictive a hwyl na'r blogio 'ma!

Cer i Grafu dijo...

Be wyt ti'n ei wneud yn darllen fy mlog - dylsa ti fod yn gwitho!! Sim syndod bod Cadwyn yn cal shwt cymaint o broblemau!!

Bydd raid iti ddod i fewn i'm rhithfro i a dala fy llaw - w'inna'n deall dim o'r 'Faceboob' ma! ;-)