martes, 3 de julio de 2007

Bonnie Tyler - Total eclipse of the heart 2005 Paris [Live]

Wi’n mynd mas am gwpl o beints ‘da Rob heno. Mae’n athro i lawr fan hyn yn Llundain ac mae’n dod o naill ai Sgiwen neu Sgeti – sai byth yn siwr p’un yw e, er mae fe’n mynd yn benwan os gweda i’r lle anghywir. Wn i’m pam mae’n gwneud shwt ffws. ‘Sneb yn gwpod lle mae’r un neu’r llall ohonyn nhw. Mae fe’n gefnder i Bonnie Tyler a dyna’r linc i’r gân hon. Wi’n credu bod Bonnie Tyler neu Gaynor fel mae fe’n ei galw hi yn smocio uffach lot fwy na fi wrth wrando ar sŵn ei llais ond mae’n eitha da er hynny.

Mae fy wncwl Samuel mewn ‘showbusiness’ hefyd ond dyw e ddim mor enwog a hon – dyw e ddim yn enwog o gwbl a gwed y gwir. Fe yw’r twrn rhwng y ddwy stripper yn y British Legion pob prynhawn Sul. Wnaiff mam ddim siarad amdano fe rhagor. Mae fe’n gwed jôcs brwnt a chymryd y ‘piss’ mas o bawb cyn, yn ystod ac ar ôl i’r strippers berfformio. Yn bwysicach byth fe sy’n gyfrifol am fynd o gwmpas gyda’r bwced i gasglu arian ar ddiwedd y perfformiadau. Mae hyn yn hen arferiad yn y Legion. Ei bwrpas yw i gasglu digon o arian i berswadio’r ddwy stripper i ddod nôl mlaen i wneud rhywbeth bach ‘extra’ i ddiddanu’r dynion. ‘Sdim angen rhyw lawer o berswad arnyn nhw a gwed y gwir. Diwedd y daith yw bennu lan yn y Legion i lot o’r strippers ‘ma – hynny yw maen nhw wedi gweld dyddiau gwell a dôn nhw ddim y pethau perta yn eu dyddiau gorau. Ers cyn cof mae’r peth ‘extra’ yn golygu defynyddio potel mawr o Corona pop – heb y pop yndo fe wrth gwrs. Af i ddim i fanylion ond dyw e fawr o beth – fe alsai’r merched hyn ffito rhyw 4 x 4 i lan y ffwrch yn ddigon rhwydd – chwarae plant yw’r botel o Corona pop iddyn nhw

2 comentarios:

Unknown dijo...

Mae Rob yn dod o Sgiwen! Mae Sgeti yn ardal posh yn Abertawe!

Cer i Grafu dijo...

Own i wastod yn meddwl bod rhywbeth bach yn 'gomon' biti fe. Wn i'm be' ifi'n ei wneud yn hongan mas 'dag e, Craig!