jueves, 5 de julio de 2007

Anhawsterau bywyd


Fe eles i lythyr i gwyno am duniau Fray Bentos ddoe. Fe geso i uffach o broblem yn treial agor tun o’u Steak and Kidney Pies nhw. Dyw’r agorydd tuniau ddim yn citsho’n iawn yn y can. Yn y diwedd fe wpais i gyllell o dan y rhan fach own i wedi llwyddo agor a threial codi’r top lan ychydig i helpu, ond wnaeth y peth slipo mas o’m dwylo ac hedfan dros y gegin. Bu bron imi dorri’r ffenestr. Wi wedi cael y broblem hon o’r blaen a dyw eu stwff nhw ddim yn tshep. Dŷn nhw ddim yn bell off £2.00 ac mae rhaid ei roi e yn y ffwrn wedyn am hanner awr, felly mae hwnna werth biti 50c mewn trydan on’d yw e.
.
Yr un broblem rwyt ti’n ei gael ‘da’r ‘Whiskers’ cat food. Maen nhw roi’r cylchoedd metal ‘ma ar dop y can i’th helpu di i’w hagor nhw, ond digon anodd yw cael dy fys bach yn y ffycin cylch i ddechrau ac wedyn mae angen cryfder Samson i dynnu’r ffycin peth bant. Caniau coca cola yr un peth – mae’r peth metal ‘na ar y top wastod yn torri bant ac wedyn mae angen morthwyl ac hoelen i wneud twll yn y can.
.
Mae’n siwr gen i ‘bod ‘na hen bobl yn marw o newyn dros y wlad i gyd. Mae’r heddlu yn eu ffindo nhw yn y diwedd ac yn eu tai mae’r cypyrddau yn llawn dop o duniau bwyd ond jwst eu bod nhw’n pallu eu ffycin agor nhw.
.
Dyw’r Cymry ddim yn bobl am achwyn ond ifi wastod yn ela llythyr off at y cwmnïoedd hyn. Rwyt ti wastod yn cael rhyw ‘vouchers’ yn ôl. Fel arfer, wi’n esgus ysgrifennu dros fy mamgu – mae hynny’n gwneud iddo fe swnio’n well. Fe geso i voucher nôl gan Rowntrees unwaith am lwyth o losin. Fe wedes i bod mamgu yn dwlu ar eu ‘soft mints’ ond doedd un o’r ‘mints’ ddim mor soft â hynny ond yn ‘sticky’ i gyd ac aeth e’n glitsh yn ei dannedd doti a bu hi wrthi am awr yn treial eu glanhau nhw â’r stwff Steradent ‘na. Fe geso i wn i’m faint o ‘wine gums’ a ‘fruit pastilles’ gyda’r ‘voucher’ ‘na. Own i bach yn dost ar ôl eu byta nhw i gyd ond fel Mae Mr Davies y bwtsiwr yn gweid – gormod o bwdin dagiff y ci ontefe.
.
Fe gelen i stwff da iawn yn ôl gan Cadburys hefyd hyd at ryw ddwy flynedd yn ôl ond bu iddynt ei deall hi yn y diwedd ac fe geso i un llythyr nôl ‘da nhw yn gweid – ‘ Your grandmother does seem to be having a lot of problems with Cadbury products, perhaps she should try Nestlé. I‘ve heard they are very good’. O leia, roedd bach o synnwyr digrifwch gyda nhw.

2 comentarios:

Rhys Wynne dijo...

Prynodd dad tun o Pilchrds yn ddiweddar o mond un pysgodyn bychan oedd y y tun i gyd! Cafodd o £2 yn y post ddoe :-) gan Glenryck

Cer i Grafu dijo...

Diolch am yr hanes 'na Rhys. Own i heb sylwi dy fod ti wedi gadael sylwad tan heddi. Go dda ar dy dad - mae angen codi stwr pan fo'r cwmnioedd mawr yn cymryd mantais ar bobl.

Fe geso i broblem tebyg 'ta Walkers crisps unwaith. Roedd bugger all o greision yndo fe. A gwed y gwir roedd y paced yn eitha llawn ond fe wnetho i dynnu hanner y paced mas, ei gludo fe ar gau ac ela llythyr i gwyno. Fe geso i 'voucher' nol am un o'r pacedi 'na llawn crisps i'r teulu i gyd.

Wt ti'n siwr taw nid hwnna wnath dy dad a'r pilchards 'na!!