viernes, 29 de febrero de 2008

WH Smith, STD, CWJ a Mcdonalds


Fi alwas i heibio i orsaf Victoria pwy ddwyrnod; ifi’n mynd i WH Smith yn y fan yna i gal y papurau newyddion o bryd i’w gilydd. Yn y siop, ma’ na bwcad fawr a thwll yndi ar y ffordd mas, iti gal rhoi’r arian am y papurau os wt ti ar frys. Ifi’n cal El Pais a’r Western Mail ac fel arfer, fi wna i roi biti ugain ceiniog yn y bwcad ‘ma. Wi’n gwpod bod ‘El Pais’ yn costo biti £1.20 ym Mhrydain ond ma’n lot tshepach yn Sbaen ac er bod y ‘Western Mail’ yn costio 58 geiniog – hen recsyn yw e a byswn i’n ei ddarllin e yn y siop ‘tasa’r bwcad ‘ma ddim yn digwdd bod yno, ac felly wi’n timlo bo fi’n talu pris dicon rhesymol am y ddou o’enyn nhw. Os nag ifi’n talu digon, bai nhw yw e am gal pwcad fel ‘na yn y lle cyntaf.

‘Tasa’r papur arfaethedig Cymraeg
Y Byd wedi cael ymddangos yn WH Smith yn Victoria, byswn i’n rhoi’r arian iawn am hwnna yn y bwcad - a hynny o ran parch i weledigaeth criw bach o bobol sydd â ffydd yn y Gymru sydd ohoni - ond mae rhyw ffycars a llai o lawar o foes, ffydd a gweledigaeth wedi cachu ernyn nhw. Er hynny, ifi yn credu y daw dydd ac fi wna i ac eraill gal rhoi ein ceiniogau prin yn y bwcad ‘na am ‘Y Byd’ – bydda i’n dal i roi ugain ceiniog am y ddou arall, ond bid a fo am hwnna.

Y diwrnod dan sylw fodd bynnag – dydd Merchar oedd hi – dyma fi’n cerad mas o’r siop ac o fewn munud neu ddwy, dyma rywun yn tapo f’ysgwydd a finna’n clwad y llais ‘ma’n gwed:

- Excuse me. I don’t think you put the correct money in the bucket for the papers, did you Sir?

Dyma fi’n ateb yn ôl yn syth ac yn gwed:

Yes, I know, but I only had two pound on me and I’m not bothered about the change, so don’t worry about it – a threial mynd o’na mor gloiad a phosib.

Ond gyfeillion, pwy oedd ‘na pan ‘netho i droi rownd ond hen ffrind gwaith ifi yn wara ambiti. Ma’n gas gen i ffrindia sy’n tynnu coes - ond ar ôl dod ato i m’unan, own i mor falch o weld Gonnie. Ddylswn i ddim galw Gonnie arni a gwed y gwir. Ei henw iawn hi yw Samantha Teresa Dawkins ond pan oen ni’n gwitho gyda’n giddil yn Mcdonalds yn Leicester Square, oen nhw ond yn rhoi ‘initials’ ein henwau ni lawr ar y rota gwaith. CWJ own i am taw Ceri Wyn Jones odw i, ond STD oedd hi druan a dechreuws pawb ei galw hi’n ‘gonorrhea’ o’r herwydd; ond aeth hwnna’n Gonnie wedyn - sydd yn lot gwell.

Dim ond mis buon ni’n gwitho da’n gilydd ym Mcdonalds ac wi’n synnu iddi hi fy nghofio i a gwed y gwir. Fi geso i’r sac o’r lle am fod yn anghwrtais wrth y cwsmeriaid – downright fuckin’ rude - fel gwetws y rheolwr Mr Patengo cyn towlu fi mas.

Dyw gweithio yn Mcdonalds ddim mor rhwydd ag y mae pobol yn ei feddwl a nace fi yw’r unig un i gal y sac oddi yno – credi di fi. Geso i sawl rybudd ond un dwyrnod, daeth y wampan o fenyw fawr dew ‘ma at y cownter ac wrth dreial ei helpu hi, fi wetas i:

- Hi darling, you obviously don’t want a salad, so what can I get for you?

Treial bod yn gyfeillgar own i ac a gwed y gwir, yn y Cymoedd, bysa hwnna’n cael ei ystyried yn ‘flirting’ - ond nid yn Leicester Square. Fi geso i ‘nhowlu mas yn y fan a’r lle – ‘the last straw’ - ys gwetws Mr Patengo. Own i’m yn becso biti’r peth – nace teip fi o yrfa bysa gwitho yn Mcdonalds ta p’un i – ac roedd y pai yn shit a’r shiffts yn wath!

Ma Gonnie a finna wedi trefnu cwrddyd lan dros y penwthnos – o leiaf wedyn fi alla i flogo biti rwpath – wi’n teimlo bod fy mywyd i’n reit ‘boring’ ar hyn o bryd.

8 comentarios:

Anónimo dijo...

Boring! Twt twt achan, paid a neud cam a ti dy hun. Ma hanes dy gybydd-dod parthed El Pais a'r Western Wail yn ddigon difyr a dy sylwade am giwed gwrth-Y Byd yn llygad eu lle. Ac yn ddi-os bydd canlyniad dy gyfarfod gyda Gonnie yn stori dal-anal os fuodd na 'run erioed. Dal di ati i'n difyrru yn dy ffordd gelfydd werinol - wi moyn mwy!

Wierdo dijo...

Hehe, ma hwna'n lus-enw cas ond doniol!! Falch fod fy initials i'n ddiflas!

Anónimo dijo...

wow

Anónimo dijo...

ma' hwn yn yffar' o flog gwych! y gore!

Anónimo dijo...

Ι am extгemеlу іmpгessed wіth уour wrіting skіlls
аs well аs with thе layout on
your weblog. Is thiѕ a pаid thеmе or dіԁ уou mοdifу it yoursеlf?

Εitheг way κeеρ up the excеllent quality writing,
it's rare to see a great blog like this one these days.
Here is my weblog ; galaxy note 2

Anónimo dijo...

Ι am not ѕure where you're getting your information, but good topic. I needs to spend some time learning more or understanding more. Thanks for fantastic information I was looking for this info for my mission.
Also see my web site: the brokering

Anónimo dijo...

I really love уour site.. Very nice coloгs & theme.
Did you make this web site yoursеlf?
Please reρly back as I'm wanting to create my own website and want to know where you got this from or just what the theme is named. Appreciate it!
My web blog :: pikavippi

Anónimo dijo...

You really mаke іt ѕeem ѕο еаsy with your prеѕentation but I find this tορic to be really something
that I thinκ I would neνer understand.
It sеems toо сompleх and eхtremely brοad for mе.
I аm looking fоrward fоr уour next poѕt, I'll try to get the hang of it!
Here is my page : pikavippii