Fel y gŵyr pawb erbyn hyn mae’n siwr, bu llyfr olaf Harry Potter ar gael i’r cyhoedd o hanner nos ymlaen. Wi heb ei brynu fe eto – sdim arian ar ôl ‘da fi. Bu digon gen i ganol wythnos ond fe eles i fe i gyd. Ymysg pethau eraill fe brynais i focs mawr o gondoms am £29.99. Roedd hwnna’ n stiwpid – nawr ‘sdim arian ar ôl ifi gael cyfle i fynd mas i’w hiswo nhw tan ganol wthnos nesaf pan ddaw fy arian i i mewn. Rhoi’r cart o flaen y ceffyl maen nhw’n galw hwnna, wi’n credu. Fe alswn i fod wedi cael gafael ar y llyfr am draean y pris ‘na hefyd.
Wi wedi darllen y llyfrau i gyd a mwynhau pob un ohonyn nhw. Fe ddarllenais i’r ‘spoiler’ ar y we hefyd er mwyn cael gwpod be’ sy’n digwydd yn yr un ola. Un diamynedd ydw i – ifi wastod yn darllen tudalennau olaf llyfr er mwyn cael gwpod y diwedd.
Mae pobl yn gweid na ddylai oedolion ddarllen llyfrau plant a chanolbwyntio ar weithiau llenyddol o bwys, ond ifi wedi treial gwneud hwnna ac mae’n well o lawer gen i ddarllen pethau fel Harry Potter.
Mewn cyfieithiad Sbaeneg y darllenais i nhw i gyd ac fe wnetho i ail-ddarllen dau ohonyn nhw yn yr Eidaleg ac un yn y Ffrangeg. Dyw fe Eidaleg ddim yn dda iawn er bod gen i radd yn y pwnc – wi wedi anghofio shwt gymaint. Roeddwn i wedi dechrau ei dysgu hi yn fy mlwyddyn gyntaf yn y prifysgol. Dechrau ym mis Medi ac wedyn erbyn y Nadolig roedden nhw’n disgwyl inni ddarllen y llyfr anferth ‘ma ‘I Promessi Sposi’ gan Alessandro Manzoni. Rhywbeth tebyg i ddarllen ‘War and Peace’ oedd hi. Roeddwn i a’m pen yn y geiriadur yn fwy nag yn y llyfr ac erbyn stryffaglu drwyddo fe, doeddwn i ddim isha darllen yr un llyfr arall am y tair blynedd nesaf.
Rwy’n gweld erbyn hyn eu bod nhw’n cyhoeddi’r teip ‘na o lyfrau cymorth i destunau llenyddol ar weithiau J.K. Rowling ei hun. Rwyt ti’n siwr o napod y teip lle mae ’na gwestiynau ar y diwedd fel ‘trafodwch ddelweddaeth yng ngweithiau’r awdur’. Sdim syndod bod plant yn colli hwyl ar ddarllen pan fo rhaid iddyn nhw ysgrifennu traethodau fel ‘na.
Mae llyfrau Harry Potter wedi cael eu cyfiethu i nifer o ieithoedd ac mae’r gyfrol gyntaf wedi cael ei chyfiethu i’r Gymraeg gan Emily Huws – Harri Potter a Maen yr Athronydd. Yn ôl pob sôn mae rhaid i’r cyfieithwyr gadw at brif enwau’r cymeriadau ond fe gân nhw rwydd hynt i newid enwau llefydd a phethau eraill. Mae enwau tai’r ysgol Hogwarts yr un peth yn y fersiwn Saesneg a Sbaeneg ond dyma’r enwau gwahanol yn y Gymraeg, Ffrangeg ac Eidaleg
SAESNEG: Gryffindor. Ravenclaw. Slytherin. Hufflepuff.
CYMRAEG: Llereurol. Crafangfran. Slafennog. Wfflpwff.
FFRANGEG: Gryffondor. Serdaigle. Serpentard. Poufsouffle.
EIDALEG: Grifindoro. Corvonero. Serpeverde. Tassorosso.
Fe ddylswn i ysgrifennu am bethau pwysicach ond rwy'n credu taw diffyg rhyw yw hi. Mae fel y Cliff Richard 'na rai blynydda yn ol yn canu 'Congratulations' yn y glaw yn Wimbledon. Mae diffyg rhyw yn gwneud petha rhyfedd i'th ben di.
2 comentarios:
Mewn blynyddoedd i ddod (neu rwan hyd yn oed) bydd pobl yn astudio gradd am Harri'r Potiwr a byddau cymharu'r cyfieithiadu'r destun MA yn sicr!
oco z gcz x, [URL=http://www.evansporn.com]xxx tube[/URL]. raj d, xeq xxkzxw|lwc byabwrt p xa ms.
Publicar un comentario