miércoles, 20 de junio de 2007

Smocio a ffilmiau


Diwrnod rhoi’r gorau i ‘smygu oedd ddoe. Own i heb weid wrth neb be’own i’n i mynd i wneud – mae hwnna’n rhoi gormod o bwysau ar ddyn. Fe etho i Boots ar bwys Somerfield a siarad a’r fenyw y tu ôl y cownter. Roedd y paced tshepa o batshys yn £12.49, felly wnes i feddwl amdano, cymeryd anadl ddofn a mynd drws nesaf i Somerfield a phrynu ugain Mayfair, Gingsters pasty a chan o coca cola ac mae dal ‘da fi ddigon ar ôl i gael paced arall o ugain nes ‘mlaen. Ond yw hi’n ddrud i roi lan – ges i uffarn o sioc, a dim ond saith batshyn wt ti’n ei gael am £12.49! Wyt ti fod i iwso un patshyn pob dydd? Mae i weld imi yn ddrud ofnadwy. Bydd rhaid imi rhoi punten i gadw pob wythnos a meddwl rhoi’r gorau iddi amser Nadolig os bydda i wedi cynilo digon.

Bues i trwy’r dydd yn gwylio fideos. Ffindes i’r wefan Sbaeneg wych ‘ma –
SinLaMula.com Mae ‘da nhw lwyth o ffilmiau a chyfresi teledu ac mae’r safon yn arbennig o uchel. Wyt ti’n gallu eu gwylio nhw ar y we neu eu lawrlwytho nhw. Maen nhw cymeryd y ffilmiau Sbaeneg i gyd o‘r wefan arall ‘ma o’r enw Stage6.divx.com ac mae ‘na lwyth o bethau mewn Saesneg ar honno, felly os wyt ti’n moyn gwylio hen gyfresi o Dr Who neu fod dy fryd ar weld ‘Lord of the Rings’ cer draw at honno. Bues i’n gwylio ‘Los 4 fantasticos’ ‘da Ioan Gruffydd, ‘Piratas del Caribe’ – y ffilm gyntaf a’r ail, ‘ET el extraterrestre’ ac rhyw ffilm o’r enw ‘Estudio 54’ sydd yn son am y clwb nos enwog ‘ma yn Efrog Newydd yn ystod y saithdegau oedd yn enwog am gyffuriau, rhyw a ‘general debauchery’ - reit at fy nant i oedd honno!

No hay comentarios: