lunes, 18 de junio de 2007

Ymgyrch dotCYM


Newy’ gael e-bost gan Hedd yn gofyn imi roi’r peth ‘ma biti cael parth Cymraeg ar y rhyngrwyd yn fy mlog, felly os edrychi di i’r dde ar waelod y dudalen dyna fe – eitha ‘crap’ ond yw e – own i’n disgwyl rhyw ddraig yn newid lliwiau bob yn ail, neu’n gwneud dawns y glocsen ne rywbeth. A ti’n gwbod beth sy’n waeth, ifi’n nabod Hedd ers oedd e yn ei gewynnau cyn iddo fe ddechrau cachu’n iawn, a be’ ifi’n ei gael ond ‘e-bost’ mae’n ela at bawb yn ddi-arwahan – dyna’r tro olaf wi’n cysgu dag e!

Ond a bod o ddifrif, i'r ddou o’chi sy’n darllen y crap ‘ma wi’n towlu mas, mae hwn yn bwysig, felly cerwch ati a llofnodwch y ddeiseb a thra boch chi wrthi cerwch draw at y peth hyfryd neis ‘na sy’n fflasho bob yn ail chwinciad a llofnodwch yr un peth dros y Galisiaid. Maen nhw’n Geltiaid hefyd. Gwasgwch y peth neis 'na ac wedyn gwasgwch y peth sy’n gweid ‘apois individuais’ ac wedyn pan ddaw rhestr hir o enwau (ifi ‘na ar dudalen 3 gyda llaw rhwng Borja a Xose – mae’n edrych yn reit rhyfedd ynghanol yr holl enwau ‘foreign?!’ ‘na) gwasgwch ‘anotarse’ a rhowch eich manylion. Os yw e’n gystadleuath a dim ond un all gael parth, gadewch iddyn nhw fynd i’r diawl – mae lot fwy ohonon nhw na ni, ond os nag yw hi, cefnogwch nhw hefyd da chi

No hay comentarios: