lunes, 18 de junio de 2007

Diwrnod hapus


Newydd bennu gwaith am y diwrnod ac mae pai yn y banc. Wi’n gweithio sifft nos yfory a fydd honno ddim yn dechrau tan 1.00 o’r gloch bore dydd Mercher, felly wi’n ddigon bodlon fy myd heddi. Diwrnod gwaith digon byr oedd hi hefyd, a diolch byth am hwnna am bu rhaid imi weithio gyda’r ‘kite prat ‘ fel y mae pawb yn ei alw fe. Wi’n mynd mlan eitha tipyn ond mae fe yn ddi-stop. Mae’n dwlu ar hedfan ‘kites’ ar Hampstead Heath – bysat ti’n meddwl taw ei fam e oedd Mary Poppins.

Am hobi dibwynt ontefe, jwst sefyll o gwmpas y lle yn dal cordyn a’r blydi kite yn cyhwfan uwch dy ben. Pwy hwyl gelet ti mas o hwnna, gwed ti – well gen i wneud llong mas o fatshys. Mae ‘dag e lwyth o luniau o ‘kites’ ar y teclyn hwn sy ‘dag e hefyd – rhai bach, rhai mawr a rhai sy’n blydi anferth ac mae’n mynnu eu dangos nhw i bawb. Wi’n siwr oedd e yn y dosbarth mongs yn yr ysgol neu o leiaf mae ar ryw fath o feddyginiaeth mae’n rhaid. Wi wedi gweid wrth y bos i beidio a’m rhoi i i weithio gydag e, ond wedodd e taw fy nhro i oedd gweithio gyda’r brych, a bod rhaid i bawb gymryd ei dro. Mae hynny ond yn deg ‘sbo.


Af i am beint i Wetherspoons da Pablo nes ‘mlaen - dyna’r dafarn tshepa fan hyn ac mae dydd Llun yn ddiwrnod tshepach byth. Gyda bach o lwc fe wneiff Fu Manchu alw heibio a chewn ni weld os oes ‘dag e gopi o ffilm newydd y ‘Fantastic Four’. Mae fe ond yn codi pum punt ond roedd y ffilm ddiwethaf geson ni o safon eitha ‘shit’. ‘King Kong’ oedd y ffilm a bysach chi’n tyngu bod King Kong yn y sinema yn ei watshio fe ar yr un amser. Roedd ‘na ben mawr yn bownsio lan a lawr a rhyw swn crensian reit trwy’r ffilm. Bydd raid inni ofyn am ddiscownt, simo fe’n iawn i werthu stwff sâl fel ‘na.

No hay comentarios: