jueves, 21 de junio de 2007

Clau a chymoni

Mae golwg newydd ar fy mlog erbyn hyn. Fi wnetho i roi fy nghyfrinair i Hedd a gofyn iddo fe sorto mas y ‘lincs’ – ifi dal heb glem sut mae mynd ati’n iawn – ac erbyn hyn mae’n galw i mewn o bryd i’w gilydd i glau a chymoni pethau. Mae fe wedi rhoi bach rhagor o liw arno fe, estyn y paragraffau fel ‘bod nhw’n mynd ar draws y dudalen a thwtio yma ac acw – wi’n siwr fod ‘na ‘gay gene’ yn cwato yndo fe’n rhywle.

Yn anffodus, mae ‘dag e synnwyr digrifwch bach yn od ac ma' fe wedi gosod llun o’i dad e ar fy mlog ac yn waeth byth, mae’n gyfres o luniau sydd yn fflasho ac er cryn ymdrech, alla i ddim cael ei wared e. Diolch byth nad yw’r peth yn siarad, ond wedi gweid hynny, wrth napod Hedd efallai’r tro nesaf y dywa i at y blog ‘ma, fe fydd y blydi peth yn gweiddu sloganau. Byddai’n well gen i gael llun o Julie Andrews neu Shreck. Ychydig o ymwelwyr wi’n ei gael – llai byth bydda i'n gael ‘da Ffred yn fflasho ar bawb.

Mae’r peth yn ‘linc’ hefyd i dudalen y cwmni 'Cadwyn' yn hysbysebu cynnyrch gwych, rhesymol a pherffaith at bob achlysur ahem!! Un peth wnath ifi wyrthin oedd y geirda neu'r 'testimonials' maen nhw'n derbyn. Dyma’r fenyw Nicci ‘ma yn ysgrifennu at y cwmni ac yn gweid -
"Just wanted to let you know that I've received my lovespoon today and it's absolutely gorgeous - so much nicer & bigger than I imagined”.
Sdim ateb i hwnna oes e?!!

2 comentarios:

Unknown dijo...

ceri wyn shw mai. eleri carrog yma. nai byth dy anghofio ti'n dod i swyddfa cefn un pnawn gwener di meddwi ac yn canu'r anthem genedlaethol. dyddia da dyddia difyrn.a dy ffrind hoff a thyner huw gwyn su ma, o gartref fy nghyfaill Branwen.ti'n iawn?

Cer i Grafu dijo...

Arbennig o dda heddi. Diolch am dy sylw Eleri - own i'n gobeithio bydda neb yn fy nabod i ond byd bach yw Cymru ontefe! Odi Huw wir 'na 'da ti? Ac ife yn nhy Branwen Nicolas wyt ti? Os felly, cofia fi atyn nhw! Own i'n meddwl bod Branwen wedi rhedeg off 'ta rhyw Arab cyfoethog a Huw wedi marw biti pum mlynedd yn ol. Wna i ddim boddran gweddio dros ei enaid e ddim rhagor.

Wi ar ddiwrnod off o'r gwaith heddi ac yn cael uffach o 'laff' 'da fy ffrind Pablo. Ryn ni'n wara biti 'ta'r 'wicepedia Sbaeneg' 'ma. Ifi newydd olygu y cofnod am Margaret Thatcher. Ron nhw'n gweid 'bod hi'n 'politica britanica' ac ifi wedi newid hwnna i 'alienigena extraterrestre'. Ryn ni'n mynd i fynd at y cofnod ar 'Franco' ar ol bennu da hi. Fe drion ni wneud rhywbeth 'da 'Tony Blair' yn yr un Saesneg ond mae rhyw idiots wedi bod yn fandaleiddio'r safle a wnan nhw ddim gadael iti olygu dim.

Pethau bach plentynaidd ontefe ond wi'n cael modd i fyw yn cymryd y 'piss' o'nhw. Byswn i wedi cael yr internet blynydda yn ol, 'swn i'n gwpod bod cymaint o hwyl i gael.

Ryn ni'n mynd mas i gael cwpwl o beints 'biti pump a meddwl beth arall allwn ni wneud - sai'n lico yfed yn rhy gynnar, mae i weld bach yn gomon imi, ond mae'n gweid pob pawb yn Sbaen yn gwneud hwnna, fel pwy ydw i fod yn wahanol.

Ta p'un diolch o galon am y sylw a gwed wrth y boi dieniaid 'na i ddod i lawr rhyw ben. Own i wir yn meddwl nad oedd fawr o neb yn darllen y crap 'ma wi'n twlu mas a llai byth y byddan nhw'n 'y nabod i. Bach o shit yw hwnna, bydd rhaid ifi fod yn ofalus be' ifi'n ei weid nawr. Dynar 3 flog lan yn y spowt i ddechrau.

Cofion a chariad mawr

ceri wyn