domingo, 3 de agosto de 2008

O’r closèt yn ‘Crud yr Awel’ i Battersea a Soho Square



Pwy benwthnos, dyma Tomos Gerwyn Williams yn bwrw drws rhif 55, St George Mansions a gofyn noddfa gyda fi – fe yw fy mab bedydd.

Mab i Siriol a Deiniol yw e - ac mae Deiniol a finna’n ffrindia gora ers dyddia plentyndod. Roedd fy mam i a Ruth - ei fam e - yn ffrindiau bora oes, ac am i’r ddou ohonon ni ddod i miwn i’r byd ar yr un amsar, bu i’r ddou o’ ni gal ein bwydo ar detha’r naill fam a’r nall yn ysbyty Llwyn-y-Gelli. Dyna pam mae’r ddou ohonon ni hyd heddi yn gallu cymysgu ein diodydd heb deimlo’n dost. ‘Sdim lot o ffrindiau bora oes â’r teip ‘na o gadwyn ac does bosibl i neb ei thorri hi. Dyna pam mae Deiniol ishta brawd ifi - a’r rheswm pam bo fi’n digwdd bod yn dad bedydd i Tomos Gerwyn.

Daeth TomGer i lawr i Lundain am i uffach o storom gorddi yn ‘Crud yr Awel’ – eu cartref nhw - a bu i TomGer rytag off a lando fan hyn. Yr hanas yw i’r dwlbyn ddod mas yn gay ryw dridiau ar ôl ei ben-blwydd yn ddeunaw oed. Rown i’n gwpod ei fod e’n dwlu ar The Sound of Music, Cabaret, Oklahoma a The Texas Chain Saw Massacre ond down i ddim yn meddwl bod y sefylla mor ddifrifol â hwnna, ond fel ‘na mae - fel 'na mae pethau’n digwdd, ontefe. Mae dyn yn dychra off yn smoco Silk Cut ac wetyn ma’ fe’n bennu off yn smoco Canabis ac yn meddwl am wpo nedwyddi yn ei fraich cyn bo ti'n troi rownd.

Yn anffodus, bu ei dad e’n mynd trwy mid life crisis a’i fam e’n ffarwelio â’r misglwyf - amseru gwael iawn; doedd yr un na’r llall o' enyn nhw yn eu hiawn bwyll ac doedd dishgwl i’r un na’r llall o' nhw siarad sens. Fe gyrhaeddson nhw i lawr yma o fewn dou ddwyrnod i TomGer lando yma ac ‘yfi oedd yn gorffod bod yn ‘go-between’ rhyddon nhw wedyn – gwae fi! Own i’n ffilu diall nag adwaith Seiriol na Deiniol. Dim ond llynadd buws y tri o’ni yn ‘civil wedding’ Bedwyr a Cledwyn a phob un ohonon ni’n dala un o’r ‘sparklers’ ‘na rwyt ti ti ei gal adeg noson Guto Ffowc - a thowlu reis drost eu pennau nhw pan ddethon nhw mas o’r Swyddfa Gofrestru yng Nghaerdydd. Ma’n depyg taw ffilu ymdopi â’r peth yn eu hiard gefan nhw eu hunain oeddan nhw.

Hyd heddi, ifi’n dal heb ddeall pam nath Deiniol adweithio mor wael a pham nag odd e’n gallu gweld ei dwpdra a’i ragrith. Mae Deiniol yn foi ffein ei wala ac wi’m yn folon i neb weud dim yn ei erbyn e. Wthgwrs, rwyf inna’n gallu gweud petha cas amdano fe, ond os dechreuiff rhywun arall arno fe – mae ‘na ffycin rycsiwns i gal ac ifi fel yr Incredible Hulk yn ymosod ernyn nhw.

Fe setlws pethach i lawr yn y diwadd; er rhaid gweud taw hawsach o lawar odd catw’r ddisgil yn wastod rhwnt Siriol a TomGer. Fi wetas i wrthi na fysa byth raid iddi orffod cystadlu â’r un ferch am gariad ei mab ac odd hi’n reit hapus biti hwnna - ond Deiniol oedd y broblam, er syndod i bawb, a fynta’n dueddol o fynd mlan a mlan ambwyti ei ‘credentials’ rhyddfrydol.

Wedi tridiau yn y fflat ac angan newid ar yr awyrgylch, fe ethon ni i gyd i mas ar y prynhawn dydd Satwn ac rown i’n cico fy hunan am gynnig Soho fel lle i fynd. Digwydd bod taw’r penwythnos 'na oedd penwythnos Gay Pride, er, 'in hindsight' - roedd y seins na i gyd; doedd ‘na’r un plentyn i’w weld yn cerad ar hyd strydoedd Llundain ac roedd yr anifeiliaid anwes i gyd i weld fod wedi eu cloi lan ac roedd cymylau duon yn ymestyn dros y ddinas i gyd.

Wrth gyrraedd Soho wedyn a diall beth odd yn mynd mlan, gofnas i i Pablo fynd ar ysgwyddau Xosé er mwyn gweld o bell lle’r oedd y gays mwyaf ‘flamboyant’ a llwyddson ni i osgoi'r rheinco trwy lwc, ac roedd Deiniol i weld yn ddigon hapus pan ffindson ni’n giddyl yng nghenol y gays ‘na sy’n lico gwisgoedd milwrol ac heb ddim byd 'camp' yn eu cylch nhw – ac fe geson ni gwpwl o gans o Strongbow a Stella Artois yn Soho Square ac wi ddim yn credu ‘odd Deiniol wedi sylwi beth oedd yn mynd mlan o'i gwmpas - diolch byth.

jueves, 24 de julio de 2008

Enwau rhyfedd


Mae’n debyg bod y llysoedd yn Seland Newydd yn gallu stopo rhieni rhag rhoi enwau twp ar eu plant. Daeth un achos lan yn ddiweddar lle’r oedd y grotan naw mlwydd oed ‘ma isha newid ei henw bedydd o Talula Does The Hula From Hawaii i rwpath gwell – cris croes tân poeth; dyma’r erthygl


Dyma restr o rai enwau gas eu derbyn a rhai gas eu gwrthod:

UNUSUAL NAMES

Allowed: Violence; Number 16 Bus Shelter; Midnight Chardonnay; Benson and Hedges (twins)

Blocked: Yeah Detroit; Stallion; Twisty Poi; Keenan Got Lucy; Sex Fruit; Fat Boy; Cinderella Beauty Blossom; Fish and Chips (twins)

Wi’n ffilu’n lân â deall shwt ‘nethon nhw ganiatáu Benson and Hedges fel enwau ar gyfer un pâr o efeilliaid a gwrthod yr enwau Fish and Chips ar gyfer pâr arall – rhyfedd o fyd.

Ma’r erthygl yn gofyn am gyfraniadau e-bost oddi wrth bobol ag enwau rhyfedd. Wi newydd ela un i mewn yn sôn am y drafferth a’r ing y bu rhaid ifi ddioddef wrth gal fy enwi’n Dobby The Snot Monster. Gobeithio y byddan nhw’n ei gyhoeddi fe, ac wedyn fi alla i edrych am rwpath gwell i neud â’m bywyd.

viernes, 11 de julio de 2008

Gwaith y mab a'r tad a'r tad-cu a'r hen dad-cu...


‘Taswn i’n fab i rywun yn y byd cyfryngol Cymraeg ei iaith, mae’n siwr gen i y bysa’r drysau ar agor led y pen ifi gal ymuno â’r criw dethol a dilyn ôl traed fy nhad - a bod ar ben fy nigon â’r cyflogau mawr. Er hynny, dyw meibion ddim yn dilyn gwaith y tad a’r tylwth erbyn hyn ombai bod nhw’n perthyn i bobol y pethe.

'Sgetyn roedd pob un mab yn fab i löwr yn y Cymoedd ond mae’r dyddiau ‘na wedi hen fynd heibio. Odd fy nhad ddim yn löwr na’r un wan jac o dadau fy ffrindiau chwaith, ac wi’n ddigon hen i gofio The Magic Roundabout pan ddath y rhaglen mas gyntaf. Dim ond un sianel oedd bryd hynny – neu falla dwy ne’ dair ond wi’m yn cofio. Ta p’un i, wi yn cofio gweld y peth mewn lliw heblaw am fy amsar yn nhŷ mam-gu lle’r odd y teledu’n ddu a gwyn hyd nes bo mam-gu’n dod at ei diwadd ynghanol y nawdegau. Ychydig cyn ei marw, fe gas hi anrheg o deledu lliw oddi wrthon ni’r plant bach, ond odd hi’n benstiff o gredu bod teledu lliw yn wael i’r llecid a gwrthod ei roi e mlan – bach yn ddiniwad a hen ffasiwn oedd mam-gu ac fi drias i fy ngorau i weud wrthi hi bod hwnna’n dwp ac yn union fel yr hen gred ‘na bod wanco yn dy ela di’n ddall. Wedi’r cwbwl, odd Mrs Edwards drws nesa i mam-gu yn ddall, a dim ond radio odd gyda ddi yn y tŷ a dyw menywod ddim yn wanco odyn nhw – wel, hwnna own i’n ei gretu cyn cwrddyd ag Euronwy Cocwyllt ac wi’n siŵr nag odd Mrs Edwards yn depyg i’r teip ‘na o fenyw.

Bid a fo am hynny, roedd fy nhad inna’ n gwitho yn ffatri bop 'Corona' yn y Porth ac a bod yn onast, fyswn i ddim fod wedi lico dilyn ôl ei draed e i’r fanna. Ni ddaeth y cyfle yn y diwedd; fe gaews y ffatri i lawr pan ath y teip ‘na o bop mas o ffasiwn oherwydd yr effaith gas y siwgir yndo ar ddannadd plant y cwm. Nid dyna’r rheswm wrth gwrs –roedd y cwbwl lot yn tasto fel pisho crics, ac doedd bron neb isha ei brynu fe ac felly fe ath yr hwch drwy’r ffatri. Dodd ‘na ddim lot o wahaniath rhwnt y blas ar y Dandelion @ Burdock a’r Orangeade a gwed y gwir. Ta p’un i, own i’m isha bod fel fy nhad – menyw ymhob pentra, ffag yn ei geg a pheint yn ei law bob munud o’r dydd, a fynta er ei gywilydd, yn mynnid mynd i’r capel deirgwaith ar y Sul. Mynd i’r capel own i’n ffilu copan ag e – fi allwn i dderbyn y petha eraill, ond fel gwetas i miwn blogiad arall, fe ath e a’i wejan newydd i’r man gwyn man draw yng Nghwmtawe pan own i’n tynnu at y 13 ac o hynny mlan ‘odd dim role model gwrywaidd gen i.

‘Netho i ddim troi’n gay cofia fel y bysa pobol eraill yn yr un sefyllfa – ond ifi yn reit sensitive oherwydd dylanwad yr holl fenywod yn y teulu – mam, mam-gu, motrypadd di-rif, y bopas drws nesa a’m wiorydd wrth gwrs. Dylanwad y menywod hyn ar fy mywyd ‘nath fy arwain i at fy swydd gyntaf fel nyrs cynorthwyol yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Wi’n lico helpu pobol ac er nad oes otsh gyda fi bthdi gwaed ne ddim byd fel ‘ny, alla i ddim dioddef pobl sy’n conan a chintach a byswn i’n dueddol o weiddu ernyn nhw – Get a grip for fuck’s sake, you’ve only broken one leg – be thankful one of them’s all right. ‘Nath y jobyn ‘na ddim para’n hir ond nid bai fi odd hi - ma pobol heddi isha i bopith fod yn berffith, ond dyw bywyd ddim yn berffith. Wi wedi clwad straeon bod Mother Teresa yn eitha hen bitsh o bryd i’w gilydd ac nid sant yw Syr Bob Geldof chwaith - o bell ffordd.

Wi’n falch bod pethach wedi newid erbyn hyn a bod meibion heddi yn gallu torri eu cwys eu hunain – ifi’n gwpod bo fi’n ddiolchgar am y cyfle.

domingo, 6 de julio de 2008

Melltith trais a'i ganlyniadau


Odd Xosé, Pablo a fi’n cerad yn hamddenol braf i lawr Battersea High Street ddoe ac wrth droi’r cornel tuag at Clapham Junction, fe welson ni’r ddou Bwyliad ‘ma’n ymladd â’i giddil y tu fas i dafarn y ‘Cock ‘n Hen’ – ffeit eithaf cas odd hi hefyd a’r dyrnau a’r trad yn mynd i bob man. Odd tair ne' betar merch o’u cwmpas a nhwtha’n mynd bach yn hysterical a gweiddu ar y ddou i stopid, ne’ walla oen nhw’n annog eu ffefryn nhw mlan, ond alla i ddim bod yn siwr - wi’m yn deall Pwyleg. Ma’n gas gen i drais, ma’n troi fy stumog i ac ifi’n timlo’n dost, ond fi netho i feto Xosé pum punt y bysa’r un yn y crys gwyrdd yn ennill - ond bron cyn shiglo llaw ar y bet ‘na, fe ‘nath y ffycar yn y crys gwyrdd gwmpo i lawr ar bwys y pafin a gwrthod sefyll lan ac fel ‘na dath y ffeit i ben. Own i’n tampan a bu bron ifi fynd lan a rhoi cic iddo fe fy hunan. Fi gollas i bum punt ar gownt y bastard ‘na – fi alswn i fod wedi pyrnu wyth gan o Blackthorn Cider sydd ar gynnig yn Somerfield am £2.00 boba pedwar a dal bod £1.00 ar ôl ifi gal bar mawr o Cadbury’s Fruit ‘n Nut sydd hefyd ar gynnig sbeshal.

Ma’ Llundain wedi mynd yn lle treisgar ofnadw yn ddiweddar – yn wath na chynt. Ma’ na wetiad yn y Gymrag sy’n sôn am fwrw cyllyll a ffyrcs pan fo hi’n pisho bwrw. ‘Sdim rhaid iddi hi fwrw glaw cyn bod y cyllyll yn bwrw i lawr arnot ti fan hyn, ac ma’ plant heddi yn Llundain yn edrych yn debycach i anghenfil Frankenstein na phlant am bod cymid o glwyfau cyllyll drost eu cyrff. Wn i’m be ffwc wi’n ei neud ‘ma – bydd raid ifi symud mas o’r ‘shithole’ cyn bo hir.

Ma’ gen i graith eitha hir ar fy nhalcan am ifi gerad i mewn i bostyn lamp unwaith, ac mae gin Xosé graith ar ei stumog ar ôl i’r meddyg gwmpo a'i glwyfo wrth dorri’r umbilical cord ar ôl i Xosé ddod mas o groth ei fam. Fe gas y nyrs a dowlws y croen banana ar lawr yr ‘ystafell dynnu babis mas’ ei diswyddo wedyn ond odd hwnna fawr o gysur i Xosé na'i fam e ar y pryd. Mae Xosé yn dueddol o ddangos y graith ‘ma i’r byd a’r betws a gweud iddo fe ei chal hi ar ôl ymladd â chrocodeil ar lannau’r Costa da Morte yng Ngalisia. Mae gen i greithiau cas eraill ymhobman hefyd, ac fi wna i stori stiwpid lan biti pob un o’nhw os daw’r cyfle. Mae Xosé a finna’n rhannu’r un fath o hiwmor (?!) yn hynny o beth, ond fe synnat ti faint o bobl sy’n cretu pob gair. Dyw Pablo ddim yn gwerthfawrogi’r hiwmor wrth gwrs, ac fe ‘naiff e rolio ei lecid e lan a chrychu ei dalcan os gwetiff yr un o’ ni rwpath twp. Odd mam yn arfadd gweud bo fi’n dod mas a phetha dwl oherwydd y cnoc geso i ar fy mhen i pan gwmpas i mas o’r pram y tu fas i gaffi Mr Gambinini pan own i’n fabi bach – ond wi’m yn cofio hwnna. Does posib plesio pawb oes e, ac wi’m yn becso biti’r peth - hyd yn oed os gweta i galon y gwir, ma’ pobol yn dal i feddwl ‘bo fi’n pisan biti.

viernes, 4 de julio de 2008

Fi wela i â’m llygad bach i rwpath yn dychra ag U.



Veo, veo una cosa que empieza con U.”medda fi
“Una botella de Vodka”
medda Xosé

Roedd Xosé yn llygad ei le, felly fe bennon ni’r gêm a mynd ati i bennu’r botel ‘na hefyd. Ryw ‘chydig wedyn, ethon ni i’r siop i brynu potelaid arall o Fodca, carton arall o sudd tomato ac iwso’r ‘worcester sauce’ a’r ‘tabasco’ oedd gyda ni yn y tŷ er mwyn creu Bloody Mary sy’n digwdd cal ei alw yn Bloody Mary yn Sbaeneg – ac yn y Gymraeg am a’r wn i.

Wrth gwrs, ffigur hanesyddol yw Bloody Mary ne' Mari Waedlyd, a hithau o linach y Tuduriaid. Fe wnath hi awdurdodi llosgi dros 300 o wrthwynebwyr crefyddol wrth y stanc pan oedd hi mewn tymer ddrwg iawn yn ystod ei misglwyf, a dyna pam cas hi’r enw Mari Waedlyd. Own i ddim yn gwpod hwnna off hand; bu imi wglo’r enw sbelan yn ôl er mwyn creu argraff ar bobol mewn partïon pan 'rown i'n gweld rhywun yn ifad Bloody Mary. Er hynny, wi yn gwpod bod Bloody Mary yn enw ar un o’r cymeriadau yn y sioe gerdd 'South Pacific' ac odd dim rhaid ifi edrych hwnna lan. Os bydda i wedi meddwi digon, bydda i’n canu un o’i chaneuon hi mas o’r sioe, mewn acen sy’n reit depyg i Jonathan Ross. Ma’n dychra off fel hyn:

♫♫ Ha-ppy, ha-ppy, ha-ppy, ha-ppy talk
Talk about things you like to do
You got to have a dweam, if you don't have a dweam
How you gonna have a dweam come twu? ♫

Ma’n eitha trist bo fi’n gwpod y geiriau i gyd i’r gân ‘na, ond be ffwc – wi wastod yn cal fy ngwahodd nôl i’r partis 'ma. Ma gen i gasgliad o ffeithiau rhyfeddol eraill y bydda i’n dod mas â nhw os bydd y sgwrs yn troi at wleidyddiaeth neu bêl-droed. Dyma rai wi’n dueddol o gofio os bydda i’n ifad fodca. Mae gen i rai gwath o lawar y bydda i’n eu cofio ar ôl ifad Strongbow, ond am ifi fod ar y fodca nithwr – rheinco rwyt ti’n eu cal heddi:

Does dim blew ar aeliau’r ‘Mona Lisa’.

Mae cocrotsh yn dal i fyw os colliff e ei ben ond ma’n llwgu i farwolaeth ar ol biti naw niwrnod os nag yw e’n dod o hyd iddo fe.

Mae jiráff ac Elin Davies o Lanllwni yn gallu iwso eu tafodau i glau eu clustiau.

Brenin y calonnau yw’r unig frenin heb fwstash mewn pac o gardiau chwarae.

Roedd Alun Davies AC yn gallu llio ei dwll tin ei hunan ond erbyn hyn, dyw e ddim mor ystwyth, a dim ond twll tin Rhodri Morgan ma’n gallu cal hyd iddo.

Mae dynion yn chwe gwaith fwy tebygol o gael eu bwrw gan lychad/tan/goleuni na menywod, ac mewn parti, rwyf inna’n chwe gwaith fwy tebygol o gal fy wado gin rywun na’r dyn cyffredin.

Roedd Martin Evans Cwmparc, yn gallu sugno ei bidyn ei hunan cyn iddo fe fagu bol cwrw yn y coleg.

Ma’r gair ‘corner’ yn Sysnag yn swno fel y gair am gont yn yr Alisieg.

jueves, 26 de junio de 2008

Todo sobre mi tia Sofia - All about Sophie


Fi geso i alwad ffôn gin mam y dwyrnod o’r blan, a hitha’n mynnid ‘bo fi’n mynd i lan i weld Anti Sophie yn Tottenham. Dyna’r peth ola own i’n moyn neud, ond ma’ rhaid ifi blygu glin ac uffuddhau witha er mwyn cadw’r heddwch. ‘The deaf bat’ odd ym war a finna’n ei galw hi pan oen ni’n fach, a hitha ar un o’i hymweliadau blynyddol i Gymru, ond mae hi bron yn ddall nawr a hwnna ar ben y ddamwain a gas hi gyda rhyw Mercedes-Benz ‘nath sgido a dod ar dop y pafin y tu fas idd’i chartref hi yn Witherside Drive a gyrru off gyda hannar ei choes hi o dan y bonet. Rŷn ni jwst yn cyfeirio ati ddi fel Sophie druan erbyn hyn.

Fe ddechreuws y dydd yn eitha gwael. Fi ddylas i’r bws rhif 44 i Victoria sydd ond yn cymeryd 10 munud fel arfer, ond fe ddath bagid o bensiynwyr o Tsheina ar y bws jwst cyn Battersea Bridge - ar ôl iddyn nhw ymweld â Battersea Park am a’r wn i. Wi’n credu ‘bo fi’n itha wleidyddol gywir a licswn i ddim gwed bod yr un iaith yn swno fel brain yn cweryla â’i gilydd ond rwyt ti heb fod ar dop y bws 44 a nhwtha ar bob ochor iti - licswn i ddim byw yn Tseina neu byswn i byth off y paracetamol. Rown i wedi bwriadu dala’r 368 o Victoria i Tottenham a joio’r golygfeydd ar y ffordd wedyn, ond 'own i’m yn fodlon risgo llwyth o Chinese yn dod mlan eto, felly dylas i’r tiwb gyda’r bobol ddrewllyd.

Wi’n ‘gorffod’ mynd i weld Anti Sophie biti tair gwaith y flwyddyn ond ma’ unwaith yn hen ddigon ac ifi’n gwed celwdd wrth mam biti’r ddau ymweliad dychmygol arall. Ar ôl biti awr, dyna le’r own i ar stepan ei drws hi, ond wedyn bu raid ifi aros ugain munud arall cyn iddi ddod at y drws, ond pwy erfyn llai a hithau’n gorffod clunhercan ar y goes bren sy’ gyda ddi nawr. Ma’ ddi’n ‘ngalw i’n Norman am ryw reswm a ‘sneb yn gwpod pam; wi’n siŵr nag os clem ‘da ddi pwy odw i mewn gwirionadd ac wi wedi’r rhoi gora i drial egluro. Mae hi bach yn dwlali a gwed y gwir. Os bydda i’n mynd i’r tŷ bach yn ystod fy ymweliad, bydd hi wedi anghofio 'bo fi yn y tŷ ar ôl ifi ddod mas a bydd raid dychra ar y cyfarchion unwaith eto.

Nyrs oedd hi yn Llundain ac ‘odd neb yn deall pam ath hi i Lundain i weitho – wel pawb heblaw am Mrs Davies drws nesa odd yn convinced ‘bod hi wedi rytag bant am ei bod hi’n lesbian. Daw home help idd’i helpu ddi mas pob hyn a hyn, ac ma ddi’n cal meals on wheels pob dydd, ond er hynny, ma’ hi’n eithaf annibynnol ei hysbryd ac yn mynnid cwcan amall i bryd idd’i hunan. ‘Nath hi ‘sandwich’ ifi a dishglad o de ond odd rhaid ifi godi’r bara er mwyn tsheco nag odd dim byd rhyfadd yn y cenol. Shwrna, dath hi â ‘scotch egg’ ifi ond odd hi heb dynnu’r plishgyn off y wî cyn rhoi’r cig sosej a’r briwsion bara o’i gwmpas e a’i dowlu yn y ffrimpan; wi’n synnu nag odd e wedi ecsplodo a bod yn onast.

Buson ni’n gryndo ar gwpwl o’i hen dapiau o ‘Just a Minute’ gyda Nicholas Parsons ac ‘I’m Sorry I Haven’t a Clue’ gyda Humphrey Lytlleton, ac wedyn odd hi’n moyn gryndo ar dâp o Liberace yn canu’r ffycin piano am hannar awr. Ma’ ddi’n lico hen ffilmiau hefyd ac fi ddetho i â fideo o Bette Davis yn ‘All about Eve’. Yn anffodus, anghofias i taw fersiwn wedi ei dybo i’r Gastilaneg ‘odd gyda fi ac felly fe watshon ni 'Eva al desnudo' - ond wetws Anti Sophie ddim byd; walla bod hi’n diall Sbaeneg ond own i ddim yn lico gofyn. Dechreuws hi bendwmpan hannar ffordd trwy’r ffilm, felly fi gwnnas i lan a thynnu ei dannadd doti hi mas, lapio siôl amdeni, doti cwshin o dan ei phen a rhoi cusan ar ei thalcan cyn gatal am flwyddyn arall. Dylswn i fod yn weithiwr cymdeithasol – ma ‘gen i ‘mynadd Jôb.

viernes, 20 de junio de 2008

Teyrnged i Ffred Ffransis ar ei benblwydd yn 80 oed


Odd ffrind arbennig ifi yn dathlu ei ben-blwydd yn bedwar ugain oed ddydd Satwn diwethaf ond yn anffodus, 'odd dim digon o arian ‘da fi i fynd i lan i Aberystwyth i ymuno yn y dathliadau. Ta p’un i, dyma fy nheyrnged fach iddo fe ar ffurf bywgraffiad.

Ymgyrchydd blaenllaw dros gyfiawnder cymdeithasol yw Ffrederick Seffton Ffransis a chanddo ymroddiad diymwad dros sicrhau dyfodol i’r Gymraeg yn Nhywysogaeth Cymru. Ganed ef ym Mae Colwyn ar y 14eg o Fehefin 1928 a’i fagu yn ‘Smutty Rhyl’ ar bwys Lerpwl.

Bu ei deulu ar ochr ei dad yn berchen ar diroedd lawer yn ninas Lerpwl gerllaw, ac yn goron ar y cwbl - 'Sefton Park' - ar gyrion y ddinas. Daeth trobwynt yn ei hanes pan wnaeth Corfforaeth Lerpwl gais i foddi Cwm Tryweryn yng nghefn gwlad Sir Feirionnydd er mwyn cael cyflenwad o ddŵr i helpu’r Ffransisiaid i ddyfrhau’r parc a chadw’r gwyrddni a fu i’r oesoedd a ddêl. Perodd hyn gryn anesmwythyd i Ffred Ffransis ac ymgysegrodd ei fywyd o hynny ymlaen i frwydro dros gymunedau’r Gymraeg er mwyn talu'r pwyth yn ôl am y gamwedd honno. Bu iddo werthu’r parc a ddaeth yn etifeddiaeth iddo i Syr Paul McCartney, a rhoi’r arian i Glwb Pêl-droed y Rhyl yn y gobaith ffôl y buasent ryw ddiwrnod yn hemo timau Lerpwl ac Everton yn y prif gynghrair.

Gellir olrhain ei achau ar ochr ei fam yn ôl i ‘St Francis the Sissy’, ac yn debyg i’r gwron hwnnw, cred Ffred Ffransis bod dyletswydd arnom i ddod â chyfiawnder a heddwch i’n byd ac i roi terfyn ar ryfel a gorthrwm trwy esiampl bersonol. Bu iddo aberthu ei ryddid lawer tro dros ei egwyddorion – yng ngharchardai Walton, Pentonville, Abertawe, Robben Island, Stalag Luft III a charchar Slade lle bu’n rhannu cell gyda Norman Stanley Fletcher. Ni fedr neb anghofio ei eiriau gwefreiddiol wrth annerch y wasg ryngwladol ar ol iddo gael ei ryddhau o garchar Pentonville ar ddechrau’r saithdegau:

Where there is hatred, let me sow love; where there is injury, pardon; where there is love, faith; where there is despair, hope; where there is darkness, light; where there is sadness, joy. Now let’s get the fuck out of here. (ffynhonnell: Reuter)

Er mwyn parhau a’i waith gwirfoddol dros gyfiawnder a thegwch i’r iaith Gymraeg, sefydlodd Cwmni Seffton ym 1963 a fuasai’n ei alluogi i frwydro dros yr iaith a chynnal teulu. Bwriadai gyflogi gweithwyr o blith aelodau gweithgar Cymdeithas yr Iaith ar y pryd, fel y caent ryddid i weithredu yn enw’r iaith, ond yn anffodus, fe aeth y syniad hwnnw i’r pedwar gwynt ar ddechrau’r nawdegau, a chanolbwyntiodd ar helpu hoywon ac anffodusion eraill na fuasai’r un cyflogwr arall yn meddwl rhoi gwaith iddynt. Adwaenir y cwmni heddiw fel ‘Cwmni Seffton a’i Fab’ wedi i un o’i feibion rannu’r baich cynyddol o redeg y cwmni.

Mae’n briod â Meinir Ffransis, merch i Primrose ac Harold Shipman ac mae ganddynt saith o blant naturiol - Liesl, Louisa, Friedrich, Kurt, Brigitta, Marta a Gretl – a bu iddynt fabwysiadu tri o blant amddifad o Burkino Faso – Hedd Gwynfor, Ceri Wyn a Leonardo DiCrapio. Mae’r plant naturiol – ill saith yn canu o eisteddfod i eisteddfod fel y Ffransisiaid. Mae Hedd yn helpu ysgwyddo'r baich o redeg y cwmni tra’n cynnal ac yn hyrwyddo’r wefan maes e - fforwm drafod i blant sydd a gormod o ddim byd i’w wneud â’u bywydau; mae Ceri yn uwch-liwtenant yn Lleng Dramor Ffrainc ac mae Leonardo wedi dwyn gwarth ar enw’r teulu wrth iddo serennu fel Jack Dawkins yn y ‘blockbuster’ porno ‘Tit ‘n Dick’ o stiwdios Metro Goldwyn Mayer.

Dathlwyd pen-blwydd Ffred Ffransis yn bedwar ugain oed mewn cyngerdd arbennig i nodi llwyddiannau ei fywyd yng nghlwb pêl-droed Aberystwyth ar y 14eg o Fehefin 2008. Daeth ffrindiau a theulu o bedwar ban Dyffryn Teifi i’r achlysur hon a chafwyd perfformiad llawn asbri gan ei hoff grŵp Abba - a ailffurffiodd yn arbennig i ganu teyrnged i’r dyn arbennig hwn. Aethant ati i ganu ei hoff gân – Money, Money, Money – i sŵn byddarol cymeradwyaeth y gynulleidfa a phlesur amlwg Mr Ffrederick Seffton Ffransis.

sábado, 14 de junio de 2008

Fy modryb a'i phlentyn siawns


Gas Grizilda a fi ffrae nithiwr a bu’r ddou o’ni wrthi fel ci a chath tan y bora bach. Mae Dracula yn lico dangos ei ddannadd ar ôl agor clawr ei arch am hannar nos, ond mae Grizilda yn lico agor ei cheg sbelan cyn hannar nos a does byth cau arni– ma’n wahanol i Dracula yn hynny o beth.

Ffonas i Rob i ddod mas gyda fi - er mwyn ifi gal bach o ‘moral support’ - ond pan wetas i enw Grizilda, dyco’r ffôn yn mynd yn 'dead' ac own i’n ffilu cal gafal arno fe wetyn. Wi’n napod Rob ac fe naiff e weud bod credyd ei ffôn e wedi dod i ben ond dyw BT ddim yn ‘neud ‘pay as you go’ ar ffôn y tŷ. Fe yw un o’m ffrindia gora fi ac wi’n ei garu fe o waelod calon ond pan ifi’n moyn help gyda Grizilda, welid di ddim o lwch ei ‘sgitsha.

Ma Grizilda’n perthyn ifi a gwed y gwir, ond cyfrinach mawr y teulu yw hi ac gwi ddim i fod i sôn amdeni ddi – ond be ffwc. Yr hanas yw i Anti Eileen – war Dadi - gal shelffad ar bwys y ffair ym Mhorthcawl pan odd hi’n bymthag oed ac esgor ar y ddiawlas hon naw mis wedyn. Myfanwy odd ei henw hi pan welws hi olau dydd, ond Grizilda yw ei henw hi nawr. Ath teulu dadi’n benwan wrth glwad bod Eileen yn fraishg a diwadd y stori fu i Myfanwy gal ei mabwysiadu gan ryw gwpwl o Hampshire a’i throi’n Grizilda.

Ni wetws neb mo’r un gair amdeni nes bod Anti Eileen wedi ennil ffortiwn ar y bingo un tro ac ath reportar y 'Rhondda Leader' ar ôl y stori a ffindo mas trwy glecs y cwm bod hanas y tu ôl i Anti Eileen a bod hi ddim yn gwed calon y gwir wrth y wasg am ei hanes deuluol.

Rôn ni i gyd yn y teulu yn gwpod am hanes Myfanwy ne’ Grizilda, ond bu rhaid ifi, fy mrawd a’m dwy war esgus fod yn ddall a byddar am ei bodolaeth. Glywson ni’r hanas gan Mrs Davies drws nesa sy’n ffilu cadw cyfrinach i safo ei bywyd – ond odd hwnna’n well na ffindo mas trwy’r 'Rhondda Leader'. Odd mam ddim yn folon siarad am y peth wrthon ni – ac rŷn ni heb weld Dadi odd’ ar iddo fe rytag off â’r fenyw ‘ma o Graig Cefn Parc wedi i’r un olaf o’onon ni ddod mas o groth mam. Ta p’un i, wi’n dychra crwydro nawr a phetha’r teulu yw petha’r teulu.

Geson ni ffrae biti’r gantores Amy Whitehouse o bawb; ma’n amlwg ifi bod Amy druan off ei phen ond odd Grizilda ddim yn cytuno. ‘Na i wastod dal fy nhir os fi’n gredu bo’ fi’n iawn biti petha ac fi wna i ddadla gyda’r Pab biti ‘contraception’ os fi’n meddwl bo’ fi’n iawn. Er hynny, gwishgws Grizilda ei het ‘wi’n gwpod yn well na neb’ a chodi ei llaish hi a gwed bo’ fi’n ffycin stiwpid, yn goc oen ac nag odd neb yn lico fi a cherad bant - y teip ‘na o fenyw yw hi, wir Dduw iti.

Ta p’un i, buson ni yn y clwb nos ‘ma ac fi etho i off i bwdu mewn rhyw gornel wedyn, ac fe ath hi off gyda rhyw mong i drio dawnso dawns y sbazmos i sŵn rhyw gân gan George Michael. Ar ddiwadd y noson, fe nethon ni gladdu’r peth a dod yn ffrindiau o ryw fath a chal cwtsh a gwed bod pob dim yn iawn - ond ifi’n dal yn ffiwman. Licswn i weud bo fi’n lico’r fenyw - fy nghyfnither - ond ma’n gas 'da fi’r ast a gwed y gwir. Ma’n teimlo fel ‘community service’ pan ifi’n gorffod mynd mas gyda ddi; nid bo fi’n gorffod, cofia - ond odd mam yn gwed wrtho i i fod yn garedig wrth yr anffodus, ac ma ddi’n reit anffodus - fi weta i ‘ny ‘thot ti nawr.

miércoles, 28 de mayo de 2008

Cwlffyn o fara 'chaws a phowlid o uwd o fewn petar wal


Geson ni bach o ffradach yn y ‘Three Cocks’ yn Walthamstow nos Satwn ond wi’m yn mynd i fecso ryw lot biti fe. Cal peint bach tawal ôn i gyda Rob pan ddath y landlord hibo wrth glasgu gwydrau a gwed rhyw gachu twp wrthon ni ambiti’r ffaith ‘bo ni’n siarad Cymrag â’n giddil. Fi glwas i ‘munan yn twymo lan wetyn a gwetws Rob ifi bido a gwed ‘im byd nôl - ond odd hi’n rhy hwyr erbyn 'ny; ifas i’m peint i ar ei ben a chitsho yn y peint llawn odd ‘da Rob a‘i shoto fe drost y bastard dienid a gwed cwpwl o eiriau reit sarhaus nôl wrtho fe. Wi’m yn cofio be’ wetas i nawr a bod yn onast, ond fe ddaw e lan yn y llys siwr o fod; wi’n gallu bod yn eitha drwg fy nhafod pan ifi’n moyn bod - ac fi’n siwr ifi wed petha fysa’n codi cwiddil arno i ‘tasa mamgu’n digwdd eu clwad nhw.

Own i’n difaru’r dwyrnod wedyn wthgwrs, ac yn timlo’n reit flin dros Rob – 'nath e ddim byd ac ‘yfi odd ar fai. Dodd e ddim yn deg bo fe’n gorffod rhannu cell gyda fi yn Paddington Green Station ond - 'fel ‘na mae' - fel ‘sa Max Boyce yn ei ganu. Wetws e bron dim byd wrthdo i dros y tridiau buson ni 'na, felly wi’n cymryd 'odd e’n itha pissed off biti’r holl nonsens.

Bu raid inni fynd o flan yr ynadon wedyn ar y Dydd Mawrth; bysan ni wedi bod dwyrnod yn llai yn y celloedd ‘tasa hi ddim yn ŵyl y banc ar y Dydd Llun. Wetas i wrth yr ynadon taw fi odd ar fai a thrwy lwc, fe ddath Rob off â’r peth ond ifi ar fechnïaeth ar hyn o bryd ac ifi’n gorffod mynd i riporto i orsaf yr heddlu yn Lavender Hill nes sbo’r achos yn cal ei thraddodi i Lys Y Goron. Wi’n credu bo fi’n cal fy stitsho lan a’r cyhuddiad o ‘assault and battery’ a gwed y gwir, ond be’ ffwc – ma bywyd yn rhy fyr i fecso am betha fel ‘na, ond pam fi Duw pam fi?

Gobitho dywa i off â’r peth – sdim ots ‘da fi ela pythewnos neu fis yn Wormwood Scrubs ond ifi wir ddim isha cal dirwy a gorffod talu costau. Dyw arian ddim yn tyfu ar goed fel 'odd mam yn lico gwed wthdo i. Gwetws landlord y dafarn wrth yr heddlu ‘bo fi wedi towlu peint o sidir drosto, ond nage sidir towlas i drosto fe ond lager Rob – own i’m yn mynd i golli peint o sidir – ma’n rhy ffycin ddrud y dyddia hyn. Mae ‘na dwll yn ei gyhuddiad o’r dychra cynta - a chelwdd yw hwnna buws e’n gwed wrth yr heddlu, ontefe.

Ma’ Robert yn dal heb siarad â fi odd’ ar ‘ny, ac dyw e ddim yn atab y ffôn ‘chwaith. Dydd Merchar yw hi heddi ac oen ni wedi trefnu cwrddyd lan i weld Aliens vs Godzilla a Michael Jackson yn y Prince Charles Theatre yn Soho - a chal peint ne ddou wedyn - ond walla ‘bo fe’n well ifi gadw off y cwrw a'r sidir a'r Smirnoff Ice a gatal llonydd i'r ffilms treisgar 'na a chal cwpwl o ddyddia o ‘contemplation’.

Wara teg i Pablo a Xosé – wetson nhw y bysan nhw wedi gwneud union yr un peth. Man nhw’n gefnogol iawn ifi ac heb ots nac onibai, fe ddelan nhw i’m gweld i pe byswn i gwpwl o wthnosa o dan glo; efalla taw dyna pam rŷn ni’n rhannu’r un fflat ac yn ffrindia bora oes – adar o’r unlliw ontefe; nace 'bo fi'n gwed 'bo Rob ddim yr un fath 'chwaith ond athro yw e, ac ma' fa'n gallu bod yn reit famol wrtho i weitha ac heb fod yn shei wrth roi cerydd ifi.

Os diwadd y gân fydd y carchar, gobeithio y galla i gael y ddedfryd ‘na ifi’n siwr o’i gal am y ‘council tax’ a’r drwydded deledu i gyd-redeg â’r 'assault and battery'; bydd hwnna’n safo arian ac yn lladd tri aderyn â’r un garrag. Ma’ rhaid edrych ar yr ochor bositif i betha witha, ond oes e – ne’ ma’ bowyd yn ormodd o ffycin boen.

lunes, 26 de mayo de 2008

Pel-droed, ffrindiau a Chymry Llundain (2)


Collws Caerdydd yn erbyn Portsmouth ond own i’m yn talu lot o sylw a gwed y gwir. Buas i wrthi’n wara ‘table football’ gydag Aeron, plentyn bach Eluned sy’n gwitho fel 'bus driver' i lawr ‘ma yn Llundain. Wi’m yn lico ‘bo nhw'n gatal plant yn y tafarndai ond mae Aeron yn wahanol i blant erill. Ma fe’n mynd i Ysgol Gymraeg Llundain a bastard bach ‘cheeky’ yw e. Odd e’n ifad coca-cola ar ôl coca-cola a gwetas i wrtho fe y bysa hi’n well iddo fe ifad llath am bod ‘coke’ yn pydru dy ddannadd di ond ‘co fe’ n gwed nôl wrtho i wetyn i ddishgwl ar seis tits ei fam e, a’i fod e wedi cal ei fwydo ar y rheini a syndod yw hi ‘bo fe heb gal ei foddi yn yr holl lath ddath mas o’ nhw. Wi’m yn lico snitshan ar neb ond fi wetas i wrth Eluned be’ odd ei mab hi wedi gweud ac fe gas e reit bryd o dafod gynti o flan pawb. Wi wir ddim yn diall plant heddi; man nhw’n gallu bod mor ffycin ‘cheeky’ a ‘sdim parch i gal.

Cwrddson ni lan â Paul wedyn – gŵr Rhiannon. Plismon yw e – un o’r rheinco yn Heddlu Dyfed-Powys. Fe yw’r unig blismon wi’n napod yn gymdeithasol; wi wedi cwrddyd â lot o’ nhw yn rhinwedd eu swydd ond stori arall yw honno. Wi wir yn ei lico fe; ma’ fa’n foi ffein ei wala ac mae Rhiannon yn 'alan y ddaear – wastod wedi bod ac am byth bydd hi. Dath Paul ag anrheg ifi hefyd - cwpwl o ‘e’s’ a lwmpyn o reu mas o’r stash sy' gyda nhw ym mhencadlys yr heddlu yng Nghaerfyrddin ar ôl rhyw raids cyffuriau mae Heddlu Dyfed-Powys yn lico ei neud o bryd i’w gilydd yn y ‘tepee village’ ‘ na ar bwys Llandybie.

Odd pawb isha bwyd wetyn a gwetws Rob bo fe’n napod rhyw ‘cheapy chinko’ yn Chinatown ar bwys Soho ac i fanno ethon ni. Ma’ Rob yn mynd yno’n amal ac mae’r bois ‘chinese’ i gyd yn ei napod e - ond teip once seen, never forgotten yw Rob. Lwcus ôn nhw’n napod Rob hefyd, am ‘bo ni’r Cymry yn gallu bod yn reit ‘raucous’ witha a simo’r chinese yn folon doti fynadd â dim nonsens – fe gân nhw’r triads ar dy gefan di o fewn wincad llygad llo bach fel ‘sa mamgu’n lico gwed. Own i’n ei gweld hi’n lle reit ddrud fy hunan – ‘mond rhyw ‘watersprouts’ oedd yn y sŵp geson ni ac fe gei di byrnu’r rhain am 'annar can cinog yn y farchnad ar bwys Battersea High Street, ond talws Rob siâr fi o’r bil yn y diwadd, felly wi’m yn mynd i gonan.

Odd Rhiannon isha mynd i’r dafarn ‘ma wetyn, lle bu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ne’r Cymmrodorion ne’ ryw ffycars diwylliedig Cymrag yn cynnal cyfarfodydd yn y dyddia a fu. Y 'Kings Arms' yw ei henw hi yn Poland Street ar bwys Oxford Circus a bar ‘gay’ yw e erbyn hyn. Nid ‘gays’ fel Graham Norton sy’n mynd ‘na, cofia - ond y teips sy’n lico gwishgo lan fel lumberjacks – ‘gays’ reit fawr a blewog sy’n gallu edrych ar ôl eu hunain. A gwed y gwir, own i heb weld cymaint o bobl fawr salw o fewn petar wal heblaw am yn y ‘Drovers Arms’ yng Nghwm Twrch Uchaf adag rhyw nos Galan yn 1996 ne' 1997 - wi'm yn hollol siwr. Wi’m yn gwpod be’ fysa Iolo Morgannwg yn meddwl ambiti’r dafarn heddi 'chwaith, ond ma’ derwyddon yn reit camp ond ŷn nhw, felly bysa fe’n timlo’n reit gyffwrddus yno am a’r wn i.

sábado, 24 de mayo de 2008

Pel-droed, ffrindiau a Chymry Llundain (1)


Etho i mas i’r dafarn ‘ma i weld gêm pêl-droed ddydd Satwn diwetha; ‘sda fi gynnig i bêl-droed a gwell gen i fynd wthnos heb ryw na gorffod watsho’r dynon ‘na yn cico pêl rownd rhyw ga neu’i gilydd, ond ‘odd Caerdydd yn wara Portsmouth - a gêm reit bwysig oedd hon i fod yn ôl y sôn.

Own i yno am bod Rhiannon, un o’m ffrindiau gora, wedi dod i lawr ar ymweliad gyda’i gŵr hi; aeth ei gwr hi wedyn i weld y gêm yn Wembley cyn cwrddyd lan â ni wedi’r peth. Esgus i Rhiannon odd y gêm ‘ma - iddi hi gal dod i lawr i Lundain, ac ifi a Rob ddala lan gyda ddi a chal tancad ffein yn y fargen. Ma’ ddi’n sbel odd’ ar ifi a Rob ei gweld hi ond dyw amsar ddim yn creu bwlch gyda rhai ffrindiau ac roedd hi fel taw ddoe buson ni mas yn galifanto ar hyd y lle.

Odd Rhiannon yn gwpod fy hanas i gyd. Own i heb weud wrthi bo fi’n ysgrifennu blog, ond ma’ ddi wedi clwad amdano ac ma’ ddi’n un o’r ychydig sy’n ei ddarllin. Wetws hi wrtho i bod ei war hi – Miriam – wedi doti’r gair ‘ffwrch’ yn ‘google’ ar funud wan ryw ddwyrnod a dath cofnod o’m blog i lan am ryw reswm. Ffonws hi Rhiannon wetyn a gwed wrthi i ddrychyd ar flog y boi ‘Cer i Grafu’ ‘ma. Rhyfedd fel bo ffrindia yn dy napod di lot fwy na bysat ti’n ei feddwl – own i’n meddwl bo fi’n reit ‘anonymous’. Trias i wadu’r peth wthgwrs, ond mae Rhiannon yn fy napod i’n rhy dda.

Cwrddson ni yn y dafarn ‘ma lle ma' rhai Cymry’n mynd i weld y gemau rhyngwladol – ‘Three Kings’ yw ei henw hi yn South Kensington a cher fynna os byddi di’n paso heibo ryw benwthnos gêm – er bod codi £3.00 i fynd i mewn i dafarn am 2 o’r gloch y prynhawn a chal gwydra plastig wedyn yn ffycin ‘rip off’. Mae isha i bobl achwn biti’r teip hyn o beth; wetas i wrthdyn nhw wrth bo fi’n gatal, ond fi geso i fy ngwahardd am byth am fod yn boen - meddan nhw. Nid ymgyrch i un person yw hon ond ymgyrch i bawb sy’n teimlo'n grac biti fe.

Odd ’na growd o’ni erbyn diwadd – bai Rob odd hwnna; ma fa’n deip sy’n clasgu pobol o’i gwmpas e fel cilion rownd pen-ôl y fuwch. Cymry oedd pob un o’nhw ‘ed; ma’ na yffach lot o Gymry yn Llundain ond wi ddim yn napod lot o’ nhw - o ran dewish yn fwy na heb. Roedd wech o'enyn nhw a gwed y gwir, ond fel mae Rob yn gweud – odd tri o’ nhw’n ‘supercilious twats’ a fysa’r tri arall ddim yn pisho arnot ti ‘sat ti ar dân. Pob un jobyn posh sydd i gal, man nhw’n ei wneud e - cyfreithwyr, athrawon, cysylltiadau cyhoeddus bla bla bla.
Wi’n gwed bo fi’n gwitho i MI5 yn Vauxhall os man nhw’n gofyn ifi ac alla i ddim siarad am y peth oherwydd natur y ffycin gwaith - gas gen i Gymry na neb sy'n lico meddwl bo' nhw'n bwysig.

jueves, 24 de abril de 2008

Pablo a’r offeiriad Juan Rodriguez Cabrón


Wi heb flogo ers sbelan nawr; ma’ na reswm am hynny ac erbyn hyn, ots gen i pwy sy’n cal gwpod - ifi ar ben fy nhennyn!

Ma’r ford yn shiglo pob tro wi’n mynd ati ac ma llyfra yn cwmpo off y silffoedd bob hyn a hyn; ma’r cyfrifiadur yn dod mlan a mynd off ar ei ben ei hunan ac ma’ Pablo’n wara’r hen ddiawl – wn i’m be’ sy’n bod arno fe, wir Dduw.

Dechreuws hyn i gyd pan fu farw Mr Wilderbeast i lawr y coridor ac wthnos union ar ôl inni watsho ‘The Living Dead’ ar y we gyda’n gilydd. Aeth petha mor wael fel y bu rhaid i Xosé glymu Pablo wrth y gwely. Roedd e’n mynnu taw General Franco oedd e am ryw ychydig a dychra martsio i lan ac i lawr y coridor yn gweiddu Viva Espana ar dop ei lais. Roedd hwnna’n ormod i Xosé a gofnws e i’r offeiriad Juan Rodriguez Cabrón alw draw o’r eglwys gatholig i gael gair ag e - ac ma’ fe’n galw miwn pob dydd odd’ ar ‘ny.

Bach o boen yn y tin yw padre Cabrón a gwed y gwir – ma’ fe’n ailadrodd yr un weddi ‘ma yn Lladin tan oriau mân y bore wrth erchwyn gwely Pablo. Mae hwnco wedyn yn cal modd i fyw wrth regi a thyngu fel hen labrwr ato fe a rhochain fel mochyn pob hyn a hyn – wi’n siŵr bod pawb yn y bloc yn gallu eu clywad nhw wrthi!

Wetas i wrth Xosé i gael pip ernyn nhw un noswith – ti’n clwad shwt gymid o betha am yr offeiriadon ‘ma’n camfihafio. Dyma Xosé yn gweud wrtho i wedyn bod padre Cabrón ar ei bengliniau yn dyfynnu mas o ryw lyfr defodau a Pablo yn ishta i lan ar y gwely â’i ben e rownd y ffordd rong – ond bysa dim byd ‘nela Pablo yn fy synnu i.

‘Netho i gwcan ‘macaroni cheese’ iddo fe pwy ddiwrnod ac ar ôl i Xose ei fwydo fe â’r llwy, fe etho i i mewn i moyn y plât. Wara teg i Pablo, roedd e wedi byta’r pryd i gyd. Dyma fi’n gofyn iddo fe a oedd e wedi mwynhau – ¿gustouche a comida, non? (joiest ti’r bwyd, do fe?) - am taw felly ma’n nhw’n siarad yng Ngalisia. Wetws e ddim byd ar y dychra ond ar ôl ifi ofyn am y trydydd tro, dyma fe’n wdu’r holl beth lan yn ‘y ngwynab. Dyna’r tro diwethaf wi’n cwcan ‘macaroni cheese’ iddo fe – gaiff e salad o hyn ymlaen ‘sbo fe’n dysgu bihafio ei hunan yn well.

Mae mam yn dod i aros o fewn pythewnos a gobeitho y bydd e’n well erbyn ‘ny neu fe all Pablo, Franco neu Pazuzu ne’ be’ bynnag ma fe’n lico ei alw ei hunan y dyddiau diwethaf ‘ma fynd i aros i lawr at hostel y digartref ‘sbo mam yn gadael.

martes, 15 de abril de 2008

Somerfield a'r 'Tandoori Palace'


‘Sdim gwaith gen i am bythewnos nawr – ma’ gen i wyliau – Haleliwia!! - ond yn anffodus, pythewnos heb dâl fydd hi. A gwed y gwir, wi’n dwlu ar yr amsar rhydd ‘ma ond wi’m yn lico bod yn glawd, ac ma’n gas gen i dorri’r got yn ol y brethyn - ma’n well gen i fwyta ‘scotch egg’ na wi wedi’i ferwi pob ffycin tro ...

Mae arian yn reit bwysig – fyswn i ddim yn gweitho fel arall. Ers ‘slawar dydd, bu rhaid i ddyn fod wrthi â’i waith caib a rhaw er mwyn rhoi pryd yn ei geg. Mae petha’n well erbyn heddi, wrth gwrs; fe alliff dyn dynnu ei bidyn e mas a gweithio gyda’r Chippendales ac ennill ffortiwn – ond nid pob dyn!

Pe taswn i’n fenyw bert, bysa’n well gen i ddangos fy nhits ar ‘shoot’ y Daily Star am wech o’r gloch y bora a bod nôl yn y gwely erbyn naw. Fe gelat ti gwpwl o filoedd yn y cyfrif banc am hwnna – gyda'r cyflog yn dibynnu ar seis dy dits di siwr o fod!

Mae talu am fwyd wastod yn broblam pan fo arian yn bring - mynd i Somerfield y bydda i’n ei wneud am ryw awran cyn iddyn nhw gau er mwyn clasgu’r bargeinion – ac yn wir iti, fe gei di lot o fargeinion; cyn hyn wi wedi cal sosejys am 13c yn lle £1.75 am fod y dyddiad terfyn yn dod i ben ar y label. Wi’m yn deall y bobol 'naiff ddim citsho yn y bargens ‘ma – fe ellid di eu hwpo nhw i miwn i’r ‘freezer’ am dri mis a ‘sdim problam. Ar ôl tri mish fe dastan nhw union yr un fath â chynt a phob fitamen a daioni yn sâff.

Gynt pan own i’n mynd i Somerfield, byswn i’n hofran uwch ben Mohammed â’i ddryll prisiau. Own i’n arfadd gwitho gyda Mohammed yn Covent Garden ac rŷn ni’n napod ein gilydd yn o lew. Buws e’n gwitho yn Somerfield am sbelan a bysa fe’n dod mas â’r dryll prisiau ‘ma a gostwng prisiau'r pethach na fydda nhw’n gallu gwyrthu erbyn y bora. ‘Odd e’n folon gor-saethu’r dryll ifi weithia a rhoi cwpwl o labeli ‘sa’n gwed ‘reduced to £1.00’. Own i’n arfadd cael bargeinion gwell na’r cyffredin wedyn, ond ma’ fe wedi mynd o ’na erbyn hyn – gwaetha’r modd.

Oen ni’n arfadd mynd i lawr i Somerfield yn reit hwyr er mwyn cal y bargeinion ond erbyn hyn mae Mrs Patel o’r bwyty Indian yn mynd yno reit gynnar a hofran rownd y lle fel rhyw ffycin mosgito nes bo’r siop yn gostwng pris y ffowlins i 99c. Bysa hi’n eu rhoi nhw yn ei phrydau cyrri wedyn a’u gwerthu nhw am £5.99 yn y ‘Tandoori Palace’ yn Brixton. Mae rhaid bod yn gloi er mwyn achub y blaen arni ddi – wir Dduw iti.

Geson ni yffach o ffrae gyda Mrs Patel un tro a Phablo’n lladd erni yn lot gwath na fi ac doedd Xosé ddim yn swil wrth gonan ond a bod yn onest, dyw hi ddim yn deg ‘bod hi’n mynd â’r ffowlins tshêp i gyd. Y tro yna, dyma hi’n gwed wrthon ni bod hi’n ffrindia mawr gyda’r ‘Triads’ a’r ‘Yardies’ a ‘tasan ni’n ei phisho hi off ‘to – bysa pobl Brixton yn byta cyrri ag un Cymro a dou Sbaenwr yndo ac felly, dethon ni i gytuneb - rŷn ni’n cal dou ffowlyn ac ma ddi’n cal y gweddill; ma' ddi dal yn ‘rip-off’ ond be’ wnei di!

domingo, 6 de abril de 2008

Nyrs Rakwonoff a'r dwsin a ehedodd dros nyth y gwcw


Wi’n cal bach o draffarth i gadw off y ffags ar hyn o bryd – ifi’n iawn o ddydd Llun i Ddydd Iou, ond fi’n dueddol o binj-smoco dros y Sul. Wi’n moyn bod yn wahanol i’r dorf ond, er fy ngwaetha, os yw’r dorf yn smoco - fi wna i ei dilyn hi i Timbuktu a nôl.

Doedd dim amdeni – roedd angen cymorth arno i ac fi wedi ymuno a’r grŵp ma –
www.gosmokefree.co o dan nawdd yr NHS. Ffonas i nhw lan a chal fy ngwahodd i’r cyfarfod ‘ma ddydd Iou diwetha yn ysbyty cyffredinol Tooting.

Yn yr ysbyty, bu raid ifi ddewis pwy gymorth own i’n mynd i gymeryd – nicotine replacement therapy – fel man nhw’n ei galw hi. Roedd patshys nicotîn, y teclyn ‘ma i hwpo lan dy drwyn di ac sy’n chwistrellu dôs o nicotîn, gwm cnoi, rhyw fath o losin i sugno, ‘microtabs’ a oedd yn edrych fel rhyw e’s bach - a’r ‘inhalator’ ‘ma. Ar ôl siarad â Nyrs Rakwonoff, dewishon ni’r ‘inhalator’ ifi, sydd fel rhyw fath o sigarét blastig am bobol sydd angan rwpath i ddala yn y llaw – wedi’r cwbwl, alla i ddim cal wanc pob tro ifi’n moyn ffag neu bydd croen fy mhidyn i’n cwmpo off.

Bu raid ifi ishta i miwn ar ddarlith gan Nyrs Rakwonoff wedyn. Roedd biti ugain ohonon ni ac am fod yr ysbyty cyffredinol ‘ma reit ar bwys ysbyty meddwl Springfield, roedd hannar y bobol ar y cwrs wedi ymuno er mwyn cal prynhawn bant o’r gwallgofdy.

Teip Mrs Hilter â gwen ar ei gwynab oedd Nyrs Rakwonoff. Y peth cynta ‘nath hi oedd dod mas â’r chwistrell bersawr ‘ma a’i chwistrellu dros bob man a gweid wrthon ni na fysan ni’n drewi fel Pepé Le Pew ar ôl rhoi’r gorau i smoco - you can smell a smoker a mile off – meddai hi. Own i’n pallu credu’r peth – ffacin cheek!!

Bu raid inni gyd wthu i miwn i’r teclyn ‘ma wedyn i weld pwy mor wael oedd ein hysgyfaint ni ne' rwpath - a dyma hi’n edrych ar y canlyniadau a gweid y bysa ein hannar ni yn marw o fewn blwyddyn ne ddwy ‘tasan ni’n cario mlan i smoco. Wetws hi ddim pwy hannar, ond own i’n cymryd ‘bo fi yn yr hannar ‘na.

Wedi ‘ny, fe geson ni weld cwpwl o luniau o bobl oedd i fod yn eu pedwar degau ond a oedd yn edrych yn depycach i bobol oedd yn tynnu at y pedwar ugain – a hynny am fod smoco yn heneiddio’r croen - ond ifi’n napod lot o bobol yn eu pedwar degau sy’n edrych yn hen ac heb smoco eriod – efallai bod nhw’n byta gormod o ‘chickpeas’ a bo’r rhain yn dy heneiddio di hefyd.

Roedd llun arall wedyn yn dangos y babi ‘ma yn y groth â ffag yn ei law a’i wynab e fel hen ddyn - 'nath hwnna neud inni gyd wyrthin ac ysgafnhau’r awyrgylch. Aeth Nyrs Rakwonoff bach yn grac a gweid ei bod hi’n bwysig peidio â smoco pan fo’r fenyw yn fraishg ond doedd ‘na’r un ohonon ni yn y grŵp yn erfyn babi, felly chas hwnna fawr o effaith.

Ei piece de resistance oedd dod mas â’r ysyfaint du ‘ma mewn bag plastig a gofyn inni ei basio fe rownd o un i un. Gwrthryfelodd y grwp wrth weld y bag ‘na a gweid wrthi hi i roi’r ffacin bag ar y ford a bysan ni’n dishgwl arno fe wedyn. ‘Odd hi ddim yn hapus iawn biti hwnna ond am nad oedd neb yn folon citsho yn y bag plastig â’r ysgyfaint yndo, buws raid iddi hi ei ddoti fe ar y ford yn y diwadd. Fe driws hi weid taw model plastig oedd yr ysgyfaint ‘ma ond roedd y cyfarfod ar dir yr ysbyty a heb fod nepell o’r mortiwari 'chwaith ac doedd yr un o‘n ni’n ei chredu hi.

Y perl diwetha wetws hi oedd bod smoco yn dy ‘ela ti’n impotent ond wetas i wrth y bois wrth fy ochor i ‘bo fi’n smoco ers blynydda ac eriod wedi cal y broblem ‘na, a dyma ni’n cal sgwrs biti’r peth nes bo’ Nyrs Rakwonoff yn dychra stampo ei thraed ar y llawr a gweiddu – you may not have a problem now, but you will ‘ave in two or three years time! ‘Nath Sam wedyn – y boi ‘ma wrth fy ochor i – sefyll lan a gweid – but you said, half of us would be dead in a year or two; you can’t have it both ways – will we be dead or will we be impotent....?

Aeth y lle’n ffradach wedyn a phawb yn wyrthin a dychra siarad ymysg ei gilydd. ‘Nath Nyrs Rakwonoff benderfynu roi pen ar y ddarlith ar ôl hwnna, ond ma’ rhaid inni i gyd fynd nôl o fewn pythewnos er mwyn cael rhagor o’r stwff patshys ac ‘inhalators’ ‘na - ond gobeitho wir na fydd hi’n rhoi darlith arall inni.

sábado, 5 de abril de 2008

Cadw trwyn yn nhin dy hunan


Geso i alwad ffon gin mam heno – mae hi wastod yn fy ffono i pan fo rhywun dre wedi marw, er nag ifi’n napod ne’n cofio eu hannar nhw.

Dyma hi’n gwed wrtho hi bod Mrs Wong, Bronant wedi mynd at ei diwadd - rhyw ddamwain ar y pafin ne' rwpath. Own i ddim yn gwpod am bwy oedd hi’n siarad ar y dychra - a dath y gola ddim lan yn fy mhen ‘sbo mam yn mynd yn grac a gweiddu ei bod hi'n son am Mrs Daffadowndiliwongwong, fel yr ôn ni’n gryts yn ei galw hi - a'i bod hi wedi ei phego hi wrth basio heibo i dafarn y 'Red Cow' yn Nhreorci.

Roedd Mrs Wong yn arfadd cadw cennin Pedr plastig yn ffenest ei hystafall ffrynt o flwyddyn i flwyddyn, ond wn i’m shwt odd mam yn gwpod y glasenwau ‘roen ninna’n blant yn rhoi ar y cymdogion am eu harferion rhyfadd ‘chwaith.

Ta p’un i, fi gofiais i wedyn ifi fod yn yr ysgol gyda Gari - ei hŵyr - a dyma fi’n ei ffono fe er mwyn rhoi cydymdeimlad a phethach fel ‘na – ond y draffarth geso i wedyn; doedd hi’m gwerth y draffarth - wir yr!

Doedd Gari a fi byth yn tynnu mlan ond chredi di byth - dyma fe’n gwed wrtho i i gadw fy nhrwyn yn fy nhin fy hunan a chau ceg, a bod arian yr insiwrans yn bwysig i’r teulu ac roedd eu mam-gu yn werth lot fwy o arian yn farw na’n cerad ar hyd strydoedd y cwm.

Sôn am dreial cydymdeimlo a helpu rhywun – nai i byth ‘to!

viernes, 4 de abril de 2008

Gwion o Landybie

Dyma glip mas o'r rhaglen 'I'd Do Anything' gyda Gwion o Landybie yn canu 'Bright eyes'.

Cystadleuaeth yw'r rhaglen hon er mwyn dod o hyd i rywun i wara rhan Nancy yn Oliver.

'Sdim rhaid i'r plant sy'n moyn wara rhan Oliver gystadlu ar y teledu ond maen nhw'n mynd trwy 'auditions' y tu ol i'r llenni fel petai.

Mae Gwion ar y blaen ar hyn o bryd ac ifi'n dwlu ar ei lais e. Fe elli di glywed ei acen Gymreig yn amlwg wrth iddo fe ganu, ond plentyn amddifad yw Oliver a pha ots os yw e'n dod o Sir Gaerfyrddin.

Da iawn ti, Gwion a phob lwc!

domingo, 30 de marzo de 2008

Terfysgwyr yr ymbarels a'm sbectol


Dyma fi’n cerad ar hyd Piccadilly echnos a’r nefoedd yn bwrw mwy o hen wragedd a ffyn ar dop fy mhen na’r ffish ‘na odd yr Iesu yn towlu ar ben yr anghenus. Uffach o noson stormus oedd hi - treisio bwrw oedd hi fel y bysa Arwel yn gweid wrtho i - ac un o Flaenau Ffestiniog yw e ac ma’ fa’n deall y pethach hyn. Mae ‘dag e fwy o eiriau am wahaniath fatha o law nag sydd gan yr esgimos i ddisgrifio eira.

Ifi’n lico cerdded a chanu o dan y glaw ac ‘sdim ots ‘da fi am gryfder y tywydd - boed hi’n ddrycin, storom neu friwlin - un sy’n lico’r glaw odw i. Wedi gweid hynny, mae gen i un broblem - ‘sda fi gynnig i bobl sy’n cario’r ymbaréls ‘na. Bysa hi’n iawn ‘tasa nhw’n amddiffyn eu hunain rhag rhyw storom o locustiad ond sôn am law odyn ni – pip-pip, whip-whip, frit-ffrit, bang-bang a thwmbo – dyw hi’m byd mawr!

Ta p’un i, dyma fi’n paso heibo i’r ‘Royal Academy’ ac un o sbôcs yr ymbaréls ‘ma yn citsho yn ochr fy sbectol a’u hela nhw ar daith o bum llathan i lawr yr hewl. Bysa fy llygad de wedi bod wrthi’n rowlo ar hyd y pafin ‘taswn i ddim yn gwisgo’r sbectol ‘na. Lwcus bod fy sbectol heb dorri ne’ fi fyswn i wedi wara mwy o’r hen ffycar gyda’r bastard dyn ‘na â’r ymbarél nag a ‘netho i - doedd dim ffycin ymbarél gyda fe am weddill ei daith; dyna i gyd weda i! Arfau peryg yw ymbaréls, mae sbôc mawr ar y top ac mae ’na o leia ugain o sbôcs bach eraill yn stico mas trw’r ochra. Dylsan nhw gal eu bano – ‘sdim dou amdeni.

Mor falch odw i ‘bo fi wedi ail-ffindo fy sbectol hefyd – ma’n ‘neud byd o wahaniath imi. Wela i ddim byd o bell hebthyn nhw a phan af i i gwrdda Rob mwn tafarn, wi’n sefyll yn rwla amlwg er mwyn iddo fe ddod i lan ato inna – does obaith ifi ei weld e. Fi allwn i wilo amdano fe, ond wi’n teimlo’n od yn cerad rownd y dafarn yn sbecan ar bawb er mwyn dod o hyd iddo fe – ma’ pobol yn gallu credu ‘bo ti’n rêl ‘creep’.

Fi wna i esgus wilo am rywun mewn tafarn weithiau; ‘sdim llefydd iti gal pisho yn Llundain – dim ond yn y tafarndai ac mae lot o’enyn nhw’n rhoi’r arwyddion ‘ma lan - toilets for customers use only. Pwrni, fi af i i miwn i’r dafarn ac esgus wilo am rywun ac wedyn, sleifo off at y tŷ bach a gweid yn ddicon uchal ar y ffordd ‘mas – where the bloody hell is he; I’ll have to come back later. Wi ddim yn ddigon digywilydd i jwst cerad miwn er mwyn cal pisho. Rwyt ti’n cael toiledau yn y ‘department stores’ hefyd wrth gwrs, ond fe ellid di fod yn un o’r rhain am hannar awr yn wilo am y tŷ bach. Erbyn iti gyrradd y tŷ bach, ti’n gorffod ishta ar y bog wedyn yn lle sefyll wrth y man pisho am dy fod ti mor ffycin blinedig.

Shwrna a finna heb sbectol, fi wnetho i addo cwrddyd lan â Marc – hen ffrind gwaith ifi – ar achlysur rhyw garioci elusennol yn ‘The Stag’ yn Victoria. Dyna le’r own i - wrth y bar - a ffilu gweld neb yn iawn pan sylwas i ar y boi ‘ma yn codi llaw arno i; y peth oedd – codi llaw ar y person wrth fy ochor i oedd y boi hyn, ond finna’n meddwl taw Marc oedd e ac felly dyma fi’n mynd draw ato fe ac ishta yn gwffwrddus ddigon rhyddo fe a’i ffrindiau. Roedd pob un o’nhw’n meddwl taw ffrind i un arall o’enyn nhw own i. Mae’n anodd gwpod be’ i ‘neud miwn sefyllfa fel ‘ny wedyn, on’d yw hi. Fi arhosais i yno gyda nhw a chael cwpwl o beints. Wi’n credu odd y boi ‘ma ‘nath godi llaw yn meddwl ei fod yn fy napod i – ond heb fod cweit yn siwr shwt ddiawl - a wetas i ddim byd, jwst esgus ei napod e. Etho i i barti tŷ gyda nhw wedyn - ond stori arall yw honno a ‘na i ddim dychra crwydro.

Geso i fwy o laff gyda nhw na byswn i wedi ei gal gyda Marc – hen ffycar boring yw e, a gwed y gwir. Wi’n dal i weld y boi codi llaw ‘ma o gwmpas y lle ar ambell i noswith mas hefyd; wi’m yn cofio ei enw fe ac er gofyn i amall i ffrind buws gyda fe ar y nosweithiau ‘na – ôn nhw ddim yn gwpod chwaith; lle rhyfadd yw Llundain fel ‘na; sneb yn napod neb yn iawn, ond wedi’r cwbwl, nid enw rhywun sy’n bwysig ond beth sydd gyda nhw yn y galon - a boi ffein ei wala yw e.

lunes, 24 de marzo de 2008

Colli cymydog a ffindo fy sbectol


Geso i yffach o sioc wthnos ddwetha; dyma fi’n darllin y ‘South London Press’ a dod ar draws y pwtyn ‘ma sy’n sôn am fy nghymydog Mr Wilderbeast:

The Victoria Line was down for most of Wednesday afternoon due to either an unfortunate accident or a successful suicide attempt at Vauxhall underground station. The remains of Mr Edgar Frederik Wilderbeast of St George House, Battersea were later found half-way towards Stockwell whilst his head was eventually found at Brixton Station.

Druan o Edgar. Gobeitho nad oedd e wedi gwneud diwadd arno'i hunan, a taw damwain oedd y cwbwl. Ma’r platfforms yn mynd yn reit brysur yn y gorsafoedd ‘ma a bysa hi’n hawdd cwmpo off yr ochor - yn enwedig os wyt ti’n feddw a welas i eriod mo Mr Wilderbeast yn sobor.

Mae hunanladdiad yn weithred hunanol ond yw e. Mae pobol yn ei wneud e ar y rheilffordd danddaearol trwy’r amsar ac ma’n bygro lan y lein am oriau bwy gilydd. Os wyt ti ar frys i fynd i rywla, does obaith iti wedyn. Wi’n ffilu deall pam nad ŷn nhw’n towlu eu hunain i mewn i’r afon Tafwys – dyw hwnna ddim yn effeithio ar neb, ond mae’n depyg 'bod nhw’n moyn y sylw.

Bu’r peth yn pwyso ar fy meddwl i am sawl dwyrnod. Yn y diwadd, fi benderfynas i dwgyd bwnshad o ddaffidowndilis o’r ardd fotaneg yn Battersea Park a’u gatal nhw mewn can o ‘Strongbow’ y tu fas i ddrws ei fflat. Dyma Pablo yn gwed wrtho i wedyn y dylswn i roi cwpwl o bunnoedd trwy’r blwch llythyron fel rhodd arall i’r meirw; un o arferion yr Asteciaid yw hwnna - medda fe - ac fe edrychan nhw ar dy ôl di a rhoi eu bendith iti. Fi wetas i wrtho fe i gofio bod Mr Wilderbeast wedi cwmpo o flaen trên, ac felly, ‘odd e’n pallu edrych ar ôl ei hunan heb sôn am ofalu am neb arall. Tynnu 'nghoes i oedd Pablito, siwr iawn - cheso i mo 'ngeni ddoe -ond ifi’n reit ofergoelus ac felly wpas i gwpwl o geiniogau oedd ‘da fi’n sbâr trwy’r blwch – jwst rog ofan.

Fel rown i’n trefnu’r blota yn y can o seidir, dyma Herr Schneider yn dod mas o’i fflat a dechreuson ni siarad am Mr Wilderbeast. Dyma fe'n gweid - Iz good he no dies in iz fflat or ve ‘ave bloody bluebottles everyvhere! Mae’n amlwg nad oedd lot o gydymdeimlad gyda fe ond ifi yn deall ei bwynt e, er hynny. Mae pobol sy’n marw mewn fflatiau yn Llundain yn gallu bod yno am wthnosau cyn bod neb yn sylwi. Dim ond y gwynt a’r cilion sy’n rhoi rhyw gliw iti bod rwpath o’i le. Ma’n uffach o job i gael pwy bynnag corff i’r llawr gwaelod wedyn - yn y lifft sy ‘da ni, o leia! Wneiff arch ddim ffito i mewn yn iawn; bysa rhaid iddyn nhw ei rhoi hi ar ei phen. Bysa’n rhwyddach wpo’r arch i lawr y shwt sbwriel a’i chasglu ar y gwaelod a gwed y gwir. Wi’n cofio’n iawn y drafferth geson ni i gael y soffa lan i’r fflat; bu raid inni dorri’r ffycar ar ei hannar yn y diwadd a’i hoelio ‘ddi nôl at ei gilydd wedyn.

Achubais i ar y cyfle i ofyn iddo fe a odd e’n napod y cymdogion newydd – y rhai odd yn conan am y sŵn pwy noswith. Mae fe’n gweid bod ‘na ddou ddyn yn byw yn y fflat wrth 'ym ochor - Eugene sy’n dod o Fudapest a Jeremy sy’n dod o Ashby-de- la-Zouch a bod gentyn nhw’r pwdl ‘ma o’r enw Rosemary. Own i’n cymeryd yn ganiataol ‘bod nhw’n ‘gay’ pan wetws e hwnna a dyma fe’n ychwanegu – I zink 'zey should paint 'ze poodle pink like a gay man'z rottveiler - a wyrthin ar ben ei jôc ei hunan. Ma’ Herr Schneider i weld yn gwpod popith am bawb – roedd e hyd yn oed yn gwpod fy enw cyntaf i ac wn i’m shwt. Gofynas i a oedd e wedi bod yn y Gestapo ond gwetws e’n reit sarrug taw un o’r Swistir oedd e - I am from Svitzerland, you Velsh fool! idd'i ail-eirio fe'n gywir....

Digwyddws peth rhyfedd echdo – fe gwmpws fy nghot ledar off y bachyn a dyna le’r oedd fy sbectol i’n rolio mas o’r poced ac ar hyd y llawr. Own i’n meddwl bo’ fi wedi hen golli’r sbectol 'na – o leiaf chwe mis yn ôl - ac ifi'n siwr nag on nhw yn y got 'na. Falla’ oedd Pablo yn gwed y gwir ac mae Mr Wilderbeast yn gwneud yn siwr bo fi’n iawn ar ol derbyn y ceiniogau 'na, ond wi wir ddim isha rhyw ysbryd yn gofalu amdano i - ac yn enwedig, un sydd wedi colli ‘i ben - er yn dymuno pob heddwch i’w lwch!

domingo, 16 de marzo de 2008

Fi, Rob a Boy George


Fi own i fod mynd mas gyda Rob brynhawn ddoe i watsho’r gêm rygbi – Cymru yn erbyn Ffrainc. Dydd Satwn oedd hwnna ond ffonas i fe ddydd Gwenar i fynd mas am beint ac odd e’n fffilu dod – gas gen i ffrindia sydd ddim yn folon rhoi popith o’r neilltu i fynd mas gyda fi.

Galswn i fod wedi cwrddyd lan â Pablo a Xosé a oedd yn mynd i weld rhyw ddawnswyr fflamenco acha llwyfan yn Earls Court; ‘netho i addo y byswn i’n mynd gyda nhw i weld y ‘crap’ ‘na sbel yn ôl ond dyma’r dydd yn cyrradd ac fi wetas i bod gen i ddolur rhydd er mwyn dod mas o ge.

Ta p’un i, boi dicon cyfeillgar odw i ac fi af i mas ar ‘mhen m’unan heb boeni dim – ‘na i wastod siarad â rhywun er taw yn Llundain wi’n byw a bod pawb yn meddwl taw un off dy ben wyt ti os siaradi di â rhywun wrth dy ochor. Wrth lwc, llwyddais i gael cwpwl o ‘e’’s off y boi drygi ‘ma a buas i wrthi’n dawnso tan oriau mân y bora yn ‘Revenge’ yn Vauxhall.

Dyna fi wedyn nôl yn y fflat a gwawr bora dy’ Satwn yn cyrradd a finna’n pallu cysgu am bo’ fi wedi cymeryd y ffycin ‘e’s ‘na. Er mwyn cysgu, fi benderfynas i gael wanc bach wrth wylio’r stwff ‘na sy ‘da nhw ar x-tube - nid bo fi angen hwnnw; mae gen i feddwl digon da er mwyn creu ffantasi a mae da’ fi eithaf ‘back catalogue’ o brofiadau rhywiol i feddwl drostyn nhw – rhai da a rhai dim cystlad – ond ffordd rhwydd o gal y plwm i’r pensil heb bo’ fi’n gorffod meddwl rhyw lawar yw’r fideos ‘ma.

Isha cysgu odw i ar ôl wanc – ma hwnna wastod yn digwdd - ac yn rhyfedd ddigon, yr un peth odw i ar ôl rhyw go iawn hefyd; wn i’m pam ond ma’ pob un dyn fel ‘ny - ond ŷn nhw. Wi’n reit dda ar ‘fore play’ cyn ei wpo fe i mewn a dod, ond wedyn ‘sda fi ddim ‘mynadd am yr ‘after play’ – yr holl gwtsho a’r ‘shit’ ‘na; cysgu ifi’n moyn ei wneud a dyna be’ na’ fi. Dyna pam wi’n meddwl bod rhyw yn well yn y gwely na sielffo yn yr awyr agored yn erbyn rhyw golfan ne’i gilydd – mae’n erbyn y gyfraith hefyd ac os cwmpid di i gysgu yng nghanol rhyw goedwig yn rhywla, fe elli di farw o ‘hypothermia’ a phwy sydd isha marw fel ‘na a’th goc yn hongad mas o dy gopish.

Etho i ddim i weld y rygbi gyda Rob ond fi gwrddas i lan ag e yn hwyr nos Satwrn ac ynta’n racs a finna a’m llecid yn troi a throelli - ond yn weddol sobor. Cwrddson ni yn Soho wi'n cretu, ond alla i ddim bod yn siwr. Welson ni’r canwr Boy George mewn un dafarn – dyna iti foi sy’n mynd o dwll i dwll ontefe. Buws e wrthi’n clau strydoedd yn Efrog Newydd fel cosb am ryw gamwedd neu’i gilydd ryw ‘chydig yn ôl ond wrth ddarllin yr ‘Evening Standard’ – ma’r cachu ar ei ben e ‘to. ‘Nath e wadd rhyw ‘rent boy’ neu fodel ne’ rywun off y rhyngrwyd i’dd ei dŷ fe ac wedyn, dyma fe’n cadwyno’r boi ‘ma wrth ryw wal yn ei selar er mwyn gal ei ffordd gyda fe. Yn ôl y papur, dyma’r boi ‘ma yn diengyd yn y diwadd a mynd yn syth at yr heddlu – rhyfadd yw bywyd ‘celebrities’ ontefe. Ta p’un i, dyma Boy George yn dod i mewn i’r dafarn ‘ma a phawb yn dechrau canu fel joc yn cyfeirio at y digwyddiad hwnnw – Do you really want to hurt me, do you really want to make me cry - un o’i ganeuon mas o ‘Culture Club’ ontefe. Roedd Rob yn canu’n fwy na neb – ma’ fa’n dod o Sgiwen a gweiddu siarad maen nhw yn y fanna ar y gora – wrth iddo weid ‘shwmae’ wrthot ti, mae ei lais e’n creu daeargryn

Wetas i ddim byd na chanu ne’ ddim ond mae’n depyg odd y Boy George ‘ma yn meddwl bo’ fi’n dod o Sgiwen a’m llais inna oedd wrthi yn fwy na neb - a dyma fe’n dishgwl yn myw fy llygaid a gweid wrtho i’n reit gas wrth droi ar ei sawdwl a cherad mas:

They’ve already cast the joker for Batman – Heath Ledger - and although he’s fucking dead now, the films in the can so do give it a fucking rest, gorgeous!

‘Sneb wedi galw ‘gorgeous’ arno i o’r blaen a llai byth rhyw ‘celebrity’. Rown i’n teimlo ar ben fy nigon, a doedd ots gen i bod Rob yn pisho ei hunan wyrthin wrth fy ochor. Mae Boy George yn lico lladd ar bawb - Madonna, Elton John, George Michael - ac erbyn hyn ifi wedi cal blas ei dafod hefyd, ond nid yn llythrennol cofia!

miércoles, 12 de marzo de 2008

Diwrnod dim ysmygu


‘Diwrnod dim ysmygu’ yw hi heddi – diwrnod a drefnir gan ryw elusen sy’n cal ei chefnogi gan y llywodraeth a mudiadau gwirfoddol i dynhau’r sgriws ar bobol i roi’r gorau i ‘symgu - neu i helpu’r rhai sydd am roi’r gorau iddi.

Wn i’m pam maen nhw’n cael dyddiau arbennig fel hyn; dŷn nhw ddim yn cael ‘diwrnod dim bwyta’ i helpu pobol sy’n rhy dew rhag saco’r bola’n dynn. Mae gordewdra yn achosi afiechydon ac angau hefyd. Wi’n pallu cael smoco yn y dafarn, mewn bwyty neu ar y bws ond mae’r bobol dew yn cymryd lan dwy sedd yn lle un a ‘sneb yn gwed dim byd wrthyn nhw – dyw bywyd ddim yn deg.

Rwyf wedi darllen bod pob ffag yn cynnwys dros 4000 o gemegion ac o leia 400 o bethach eraill gwenwynol ac mae’n rhaid taw dyna’r rheswm pam bo’ nhw mor ddrud – ac mi fyddan nhw’n ddrutach ar ôl y Gyllideb heddi.

Hefyd, mae ysmygu yn lleihau eich bywyd o ryw chwech i saith mlynedd, felly gorau po gyntaf y rhowch chi’r gorau iddi. Fodd bynnag, os ŷch chi’n dal i smoco a chitha’n tynnu at eich pedwar ugain, fe wnewch chi ond byw biti blwyddyn yn hirach os byddwch chi’n lwcus, felly does dim lot o bwynt rhoi’r gora iddi wedyn - ac mae’n siŵr gen i bo’ chi wedi niweidio’ch corff y tu hwnt i bob achubiaeth ac felly, man a man ichi gario mlan a joio’r mwgyn. Mae ‘na ddigon o betha eraill alliff eich lladd chi yn yr oedran ‘na - ma’ croesi’r hewl yr un mor beryg ag yw ambell i ffag.

Wi’n teimlo’n reit hunanfodlon am bo’ fi wedi achub y blaen arnyn nhw a thorri i lawr ar fy smoco ers tair wthnos. Dros y tair wythnos diwethaf, wi ond wedi smoco biti pedwar pecyn o ddeg ac un paced o ‘Cutters & Grants Rolling Tobacco’. Dyw hwnna ddim yn ffôl o gwbwl greda i – ac a bod yn onest, yn f’achos i, mae’n ffycin wyrthiol.

Bydda i’n byta lot o loshin yn lle smoco ac ifi wedi mynd trwy uffach lot o ‘Werther’s Originals’ a ‘Haribo Kiddies Super Mix’ – lot gormod o’enyn nhw a gwed y gwir. Efallai bydd fy ysgyfaint yn gwella o’r hen ‘tar’ ‘na, ond bydd fy nannedd i’n dychra cwmpo mas cyn bo hir.

Efallai ‘na i gael mwgyn ne’ ddou heddi – ‘diwrnod dim ysmygu’ myn yffach i - wi’m yn lico dilyn y dorf; a gwed y gwir, bastard bach lletwith odw i. Dyna be ‘na i – fi alla i roi’r gora iddi o’r newydd yfory.