viernes, 5 de diciembre de 2008

Caerwynt, Alffred Fawr a 'Brithyll'


Wi’n gwitho yng Nghaerwynt yr wthnos hyn – wel ‘blaw am heddi am bo rhaid ifi seino ‘mlan. Wel, ‘sdim rhaid ifi ac mewn gwirionadd ddylswn i ddim, ond ma’ ‘na wasgfa ariannol yn sgubo’r wlad ac ma’ angan pob cinog ar ddyn.

Lle'r crachach yw Caerwynt a ‘sneb yn brin o arian yma. Mae pob un siop yn y dre yn codi’u prisia i adlewyrchu’r ffaith ‘ny. Own i’n mynd i byrnu pastai yn y siop fara ‘ma ar yr hewl fawr ddydd Llun ond ôn nhw’n codi £4.99 am un o’u supreme pasties. Byswn i’n dishgwl cal gweld y ffycin Supremes 'i hunin yn yr Albert Hall am £4.99. Yn y diwadd, fi brynas i Mars Bar yn Woolworths am 75 cinog a dyna iti rip-off arall – sim syndod bod y ffycin siop yn mynd i gau lawr.

Mae Caerwynt yn enwog am Alffred Fawr ac ma’ na gofgolofn iddo fe yma. Yr unig beth wi’n gwpod amdano yw ‘bo fe wedi llosgi tishenna, cacs ne' bics ryw ben bora. Own i’n ffilu diall yn yr ysgol pam odd brenin yn neud shwt beth mor gay a thrial neud tishan lechwan ei hunan, ond wedi gweld prisia bwyd fan ‘yn – wi’m yn ei feio fe o gwbwl.

Mae Hedd, sy’n gwitho gyda fi, wedi dod â phedwar llifir ifi gal eu darllin- ond ma’ fa ond yn folon rhoi un ifi ar y tro rog ofan ‘bo fe ddim yn eu cal nhw nôl. Y llifir cyntaf ifi gal odd Brithyll gan Dewi Prysor ac ifi wedi darllin hwnna erbyn hyn. Joias i’r llifir mas draw – un o’r llyfra gora ifi ddarllin yn y Gymrag ariod. Hanas y werin bobol mewn pentra llawn strabs fel Clochemerle sydd yma, ac ma’ troeon trwstan y cymeriadau yn mynd rownd yn ‘y mhen i o hyd - ac ifi ‘n dal i wyrthin yn slei bach i ‘munan ar gownt amall i helynt.

Campwaith o lifir yw e ac fe 'nela fe ffilm gomedi wych heb os nac onibai. Fodd bynnag, ma’ ‘na lot o regfeydd yn y llifir na fydd at ddant rhai Cymry, ond be’ ffwc – dyw’r blog ‘ma ddim yn bring o’enyn nhw chwaith. Ma’ rhai pobol yn gweud bod rheci yn arwydd o ddiffyg geirfa ond wi’m yn cytuno â hwnna. Os galwa i rywun yn ‘supercillious fucking imbecile’ – sdim diffyg geirfa gen i wrth weud hwnna a ‘sdim diffyg geirfa na dawn meddwl yn perthyn i’r llifir ‘ma o bell ffordd.

Ma’ na ddwy olygfa yn y llifir sydd yn benigamp ac ifi’n ail-gorddi’r plesar o’u darllin o hyd. Ma’ un yn sôn am y Sysnas dew ‘ma a’i gŵr 'o dan ei bawd' yn cwmpo mas â’r bobol erill ar un o fysys Crosville, a’r llall am ddou strab yn cal wthad gin landlady y dafarn leol. Wi’m yn cofio ifi wyrthin cymaint ers gweld Fawlty Towers a’r episôd ‘na gida’r Almaenwyr. Own i wrth fy modd yn darllin yr hanesion hyn ac erill ond ‘na i ddim sbwylo’r profiad iti, felly cer mas i byrnu’r llifir a phaid â bod yn tight-arse fel fi sy'n ei fencid e off ffrind.

Ma’ Hedd yn gweud wrtho i bo fi’n cal darllin un arall o lyfra Prysor ar ôl ifi ddarllin ei ail ddewis e ifi – Y Pla gan William Owen Roberts, ond odd y ddwy bennod gyntaf yn itha hard-going, felly fi wna i jwst esgus ‘bo fi wedi darllin hwnna er mwyn cal darllin ail lifir Dewi. Fydd Hedd byth yn cretu 'bo fi wedi ei bennu e mwn dwyrnod, felly fi ‘na i aros cwpwl o ddyddia. Wi'n siwr bo Hedd heb ei ddarllin e chwaith, felly fi 'na i ryw stori lan os yw e'n gofyn ifi am beth yw e ambwyti - fydd e fawr callach; nace boi call yw e ar y gora.
.
Ma’ fe’n gweud wrtho i bod Prysor wedi ysgrifennu tair nofel at ei gilydd, ac wi’n disghwl mlan at gal ‘y nilo ar yr ail un sydd â’r teitl ‘Macrall’ ne ryw ffish tebyg ac ma’ na drydydd ar y ffordd o’r enw ‘Crancod’ ne rwpath tebyg, ond does wbod pwy lifir fydd rhaid ifi esgus darllin yn y cenol cyn bod Hedd yn folon mentyg hwnna ifi. Wi'n cretu ei fod e'n wara'r 'stick and the carrot' gida fi ac os fi'n darllin rwpath diflas, wetyn fi alla i gal rwpath difyr - a very cunning plan ond withiff e ddim; cheso i mo 'ngeni miwn byngalo ac ma' digon lan star 'da fi.

4 comentarios:

Anónimo dijo...

Nodyn: Caerwynt yw Winchester yn y Gymraeg.

Cer i Grafu dijo...

Diolch yn fawr. Mae dyn yn dysgu rhywbeth newydd pob dydd.

Mae Caerwynt yn enw da am y lle gwath odd hi'n wyntog ac yn blydi oer yno.

y prysgodyn dijo...

Hei Kez, newydd fod yn ôl at fy mlog o'r diowedd a gweld dy neges. Ddois i draw yma i ddarllen be ddudas di. Diolch am y geiriau o werthfawrogiad am Brithyll. Dwi'n falch uffernol fo chdi di mwynhau o gymint. Dwi'na yn dal i chwerthin am y golygfeydd ti'n grybwyll hefyd! (ydw i'n cael deud hynny???) :]

Cer i Grafu dijo...

Wyt a diolch iti Dewi. Odd gen i very cunning plan a gwithws e. Fi alla i roi dy gymeradwyaeth ar dop fy mlog nawr :)